Llyfr Liwt Brogyntyn

Cyfeirnod: Brogyntyn MS I.27

Mae llawysgrif Brogyntyn I.27 yn rhan o gasgliad o lawysgrifau o Lyfrgell Brogyntyn ger Croesoswallt a adneuwyd i’r Llyfrgell ym 1934. Mae’n cynnwys cerddoriaeth ar gyfer y liwt a gopïwyd tua 1595, ac adysgrifau o gerddi, marwnadau a miscellanea cyfreithiol gan y bardd-gyfreithiwr Thomas Tanat (1603-69) o Broxton, swydd Caer, a ychwanegwyd rhwng tua 1621 a 1629.

Y Llawysgrif

Mae’r dyfrnod ar y papur yn dyddio’r llawysgrif i 1584, ond cytuna’r arbenigwyr y bu'r llyfr yn wag am gyfnod cyn copïo'r gerddoriaeth, ac na ddefnyddiwyd gweddill y tudalennau tan i Thomas Tanat ei ddefnyddio’n ddiweddarach.

Mae’r llawysgrif yn mesur 21.3 x 16.7 cm, ac mae rhan fechan ohoni wedi ei llinellu â llaw ar gyfer nodiant cerddoriaeth mewn cyfresi o chwe erwydd, chwe llinell ar bob tudalen. Ailrwymwyd y llawysgrif yn dynn iawn mewn croen mochyn tua hanner cyntaf y 19eg ganrif. Mewnosodwyd panel o rwymiad cynharach i’r clawr: panel o groen llo brown tywyll ydyw sy’n dyddio o tua diwedd y bymthegfed ganrif, ac sy’n mesur tua 185 x 140mm. Addurnwyd y panel hwn â diemyntau a dau stamp gwahanol, un o garw y tu mewn i sgwâr a’r llall o lew y tu mewn i gylch. Tystia Robert Spencer a Jeffrey Alexander yn eu llyfr ‘Brogyntyn lute book’ nad yw’r mewnosodiad hwn yn rhan o rwymiad gwreiddiol y llawysgrif gan fod y stampiau’n amlwg wedi eu creu ar gyfer llyfr o siâp gwahanol, gan fod y patrwm yn gorwedd ar ei ochr (llun o bgn00149). Nodant hefyd i’r llawysgrif gael ei thocio yn ystod yr ailrwymo, gan gwtogi rhai teitlau ar ymylon y tudalennau.

Mae copïau o ohebiaeth ddiweddar (1962-4) sy’n gysylltiedig â’r llawysgrif, mewn rhwymiad ar wahân (MS I.27a)

Y Gerddoriaeth

Mae’n debyg mai detholiad o gerddoriaeth bersonol neu deuluol a geir yn y llawysgrif, sy’n cynnwys tua 49 darn o gerddoriaeth ar gyfer y liwt, mewn llaw hynod daclus ond anhysbys. Awgryma Mathew Spring, awdur y gyfrol The Lute in Britain: A History of the Instrument and Its Music y crëwyd y llawysgrif gan amatur brwdfrydig o uchelwr. Mae’n cynnwys naw unawd, 24 cân-gonsort wedi eu tableiddio, 15 deuawd anghyflawn, ac un triawd. Honnir hefyd bod yr unawdau a’r deuawdau yn ‘hen ffasiwn’ erbyn 1595.

Ysgrifennwyd y teitlau gwreiddiol mewn gwyddor seiffr (cypher alphabet), ond dilëwyd neu guddiwyd y rhan fwyaf yn ddiweddarach. Ceir allwedd i’r codau yma yng nghyflwyniad Robert Spencer i’w lyfr ‘The Brogyntyn Lute Book …’. Mae testun wyth o’r caneuon yn deillio o’r ‘The Paradyse of Daynty devises’, casgliad o gerddi gan Hyder Edward Rollins. Mae’n cynnwys hefyd dabliadau o ‘Je file’ gan Philip van Wilder. Mae gan lawer o’r caneuon eraill deitlau diddorol, megis ‘Ah, alas, you salt sea gods’, ‘In terrors trapped with thraldom thrust’ a ‘Mistrust misdeems amiss’.

Nid oherwydd y gosodiadau eu hunain y mae darnau Brogyntyn yn bwysig fel y cyfryw, ond yn hytrach am eu bod yn dystiolaeth o arfer cerddoriaeth mewn trefniant tabl-nodiant rhydd, yn offerynnol a lleisiol, ar gyfer perfformiadau gan y llais a’r liwt.

Gellir dyddio’r gwaith o gopïo'r gerddoriaeth i gyfnod ar ôl 11 Gorffenaf 1595, gan fod darn rhif 25 yn sôn am radd BMus Pilkington, a ddyfarnwyd iddo ar y dyddiad hwn. Noda Robert Spencer a Jeffrey Alexander yn eu llyfr ‘Brogyntyn lute book’ ei bod hi’n debygol y copïwyd yr holl gerddoriaeth mewn cyfnod cymharol fyr.

Thomas Tanat (1603-69)

Ychwanegodd Thomas Tanat, cyfreithiwr, gŵr crefyddol, brenhinwr a bardd o ardal Broxton, Swydd Caer, gerddi a miscellanea cyfreithiol i’r llawysgrif rhwng 1624 a 1669. Nid oedd ef yn gyfrifol am y cynnwys cerddorol, ac mae’n debygol iddo etifeddu neu brynu’r llawysgrif. Gadawodd ei holl lyfrau i’w fab Edward Tanat yn ei ewyllys yn 1670.

Llyfryddiaeth a darllen pellach