Liber B, John Davies o Fallwyd

Cyfeirnod: NLW MS 4973B

Mae’r llawysgrif hon yn cynnwys nifer o drawsgrifiadau, neu gopïau, gan y Dr John Davies, Mallwyd o lawysgrifau Cymraeg pwysig. Yn eu plith ceir copi o lawysgrif Hendregadredd; credir bod y rhannau o’r llawysgrif wreiddiol sydd bellach ar goll yn y llawysgrif hon.

John Davies (c. 1570-1644)

Roedd y Dr John Davies yn un o ysgolheigion mwyaf Cymru. Ganed ef ym mhlwyf Llanferres, sir Ddinbych tua 1570 ac wedi astudio yn Ysgol Ramadeg Rhuthun, aeth i Brifysgol Rhydychen. Yn 1604 fe’i hapwyntiwyd yn rheithor Mallwyd a chyda’r lle hwnnw y cysylltwyd ei enw ers hynny.

Roedd y Dr John Davies yn ysgolhaig Cymraeg heb ei debyg. Er bod y fersiynau Cymraeg diwygiedig o’r Beibl a’r Llyfr Gweddi Gyffredin a gyhoeddwyd yn 1620 ac 1621 yn dwyn enw'r Esgob Richard Parry, tybir mai gwaith Davies oedd y rhain. Yn 1621 hefyd yr ymddangosodd ei ramadeg Cymraeg Antiquae Linguae Britannicae…Rudimenta, ac yna yn 1632 cyhoeddwyd y Dictionarium Duplex, sef geiriadur Cymraeg-Lladin / Lladin-Cymraeg safonol.

Yn ystod ei amser fel rheithor Mallwyd bu hefyd yn gyfrifol am nifer o brosiectau adeiladu o amgylch y pentref, yn cynnwys adeiladu’r rheithordy ac ailadeiladu’r eglwys.

Bu farw’r Dr John Davies yn Harlech yn 1644, ac fe’i claddwyd ym Mallwyd.

Cynnwys y llawysgrif

Ymhlith gweithiau eraill mae Liber B yn cynnwys copi o lawysgrif Hendregadredd, a wnaed gan John Davies yn 1617, copi o Lyfr Taliesin a wnaed rhwng 1631 a 1634, a hefyd copi o Wasanaeth Meir, cyfieithiad mydryddol Cymreig o’r Llyfr Oriau Lladin Horae beatae Mariae virginis.

Darllen pellach

  • Ceri Davies (gol.), Dr. John Davies of Mallwyd: Welsh Renaissance Scholar (Caerdydd, 2004)
  • Daniel Huws, Medieval Welsh Manuscripts (Caerdydd, 2000)
  • Mihail Dafydd Evans, ‘John Davies (c.1570-1644)’, Oxford Dictionary of National Biography (Rhydychen, 2004)
  • Rhiannon Francis Roberts, 'John Davies (c.1567-1644), Y Bywgraffiadur Ar-lein

Oedd y dudalen yn ddefnyddiol?