History of the British Bards

Cyfeirnod: NLW MS 13107B

Mae'r llawysgrif hon yn cynnwys nodiadau gan Iolo Morganwg (Edward Williams, 1747-1826) ar gyfer llyfr y bwriadai ei gyhoeddi o'r enw 'The History of the British Bards'. Fel llawer o'i gyfoeswyr, credai Iolo mai'r beirdd Cymraeg oedd etifeddion dysg a thraddodiadau Derwyddon yr hen fyd. Haerodd Iolo fod Derwyddiaeth wedi goroesi, yn ei ffurf buraf, ym Morgannwg, ei fro enedigol. Creodd gorff enfawr o athrawiaethau a ffugiadau llenyddol derwyddol i gyfiawnhau'r haeriad hwnnw.

Ganed Iolo ym mhlwyf Llancarfan, yn fab i Edward ac Anne Williams. Saer maen oedd ei dad. Dywedodd Iolo mai trwy wylio ei dad yn torri llythrennau ar gerrig beddau y dysgodd yntau ddarllen. Yr oedd ei fam yn ddynes ddiwylliedig ac yn aelod o deulu bonheddig Mathews yn Llandaf a Radur.

Meistrolodd Iolo grefft ei dad, ac yn 1773 aeth i Lundain i chwilio am waith. Yno, trwy fynychu cyfarfodydd bywiog Cymdeithas y Gwyneddigion, daeth yn rhan o fywyd Cymraeg y ddinas. Ar ôl gweithio mewn gwahanol fannau yn Lloegr, dychwelodd i Fro Morgannwg yn 1777; ac yn 1781 priododd Margaret Roberts. Yn ystod 1786-7, ar ôl cyfnod helbulus fel dyn busnes, bu Iolo yng ngharchar y dyledwyr yng Nghaerdydd. Credir mai ffrwyth ei flwyddyn o garchar oedd un o'i ffugiadau mwyaf gorchestol, Cyfrinach Beirdd Ynys Prydain.

Yn 1791, dychwelodd i Lundain, gan honni, mewn cylchoedd llenyddol Cymraeg a Saesneg, mai ef oedd etifedd holl gyfrinachau'r Derwyddon. Yn 1792, ar ben Bryn y Briallu, yn Llundain, cynhaliodd seremoni gyntaf Gorsedd Beirdd Ynys Prydain. Yn ddiweddarach daeth y ddefod yn un o brif atyniadau'r Eisteddfod Genedlaethol.

Dychwelodd Iolo i Gymru yn 1795, a dechreuodd gasglu defnyddiau ar gyfer gwaith mawr ei fywyd, 'The History of the British Bards', llyfr a fyddai, yn ei dyb ef, yn egluro i'r byd holl hanes a dysg y Derwyddon. Yn 1801 ac 1807, cyhoeddwyd nifer helaeth o'i ffugiadau llenyddol yng nghyfrolau'r Myvyrian Archaiology, wedi iddo argyhoeddi'r golygyddion mai testunau a gopïodd o hen lawysgrifau oeddynt. Er hynny, ni lwyddodd i ysgrifennu 'The History of the British Bards'. Bu farw yn 1826, gan adael casgliad anferth o lawysgrifau ar ei ôl. Mae'r casgliad hwnnw bellach yn y Llyfrgell Genedlaethol.

Darllenwyd papurau Iolo yn eiddgar gan ei edmygwyr yn ystod y 19eg ganrif; ac ni ddinoethwyd ei dwyll tan yr 20ed ganrif, trwy ysgolheictod yr Athro Griffith John Williams. Daethpwyd hefyd i werthfawrogi mawredd Iolo fel bardd a gweledydd: un o'r ffugwyr mwyaf toreithiog ac athrylithgar yn hanes llenyddiaeth.

Darllen pellach

  • G.J. Williams. Iolo Morganwg. Caerdydd: University of Wales Press, 1956
  • Prys Morgan, Iolo Morganwg. Caerdydd: University of Wales Press, 1975
  • Geraint H. Jenkins, Facts, Fantasy and Fiction: The Historical Vision of Iolo Morganwg. Aberystwyth : Canolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru, 1997

Oedd y dudalen yn ddefnyddiol?