Cronicl Elis Gruffudd

Cyfeirnod: NLW MS 5276D a 3054D

Tua'r flwyddyn 1552 cwblhaodd Elis Gruffudd ei gronicl enfawr o hanes y byd, ac fe'i rhannwyd yn ddwy. Yn y rhan gyntaf, Llawysgrif NLW 5276D mae’n ymgeisio i ddisgrifio hanes y byd mewn chwe oes o’i Gread trwy i’r Oes Gristnogol. Yn yr ail ran, sef Llawysgrif 3054D ceir hanes Lloegr a Chymru o gyfnod Gwilym Orchfygwr hyd at 1552. Dyma oedd y gwaith olaf iddo erioed ei chreu.

Gweld y llawysgrifau

NLW MS 5276iD (Cyfrol 1 Rhan 1)  
NLW MS 5276iiD (Cyfrol 1 Rhan 2)  

NLW MS 3054iD  (Cyfrol 2 Rhan 1)      
NLW MS 3054iiD  (Cyfrol 2 Rhan 2) 

Pwy oedd Elis Gruffudd?

Ganwyd Elis Gruffudd (‘Y milwr o Galais’) tua 1490 yng Ngronant Uchaf ym mhlwyf Llanasa, sir y Fflint. Tua 1510 ymunodd â byddin Lloegr a bu’n ymladd yn yr Iseldiroedd a Sbaen. Erbyn 1518 roedd yn gweithio i Syr Robert Wingfield, bonheddwr o Suffolk, gan symud i Calais yn 1520 lle'r oedd Wingfield yn llysgennad. Rhwng 1524 a 1529, bu’n geidwad ar blasty Syr Robert yn Llundain, cyn dychwelyd i Galais lle'r arhosodd am weddill ei oes. Ni wyddom pa bryd y bu farw.

Croniclydd

Er mai milwr a swyddog gweinyddol oedd Gruffudd, ei waith fel copïydd, a chyfieithydd, ac yn arbennig fel croniclydd, sydd o ddiddordeb heddiw. Gwaith pwysicaf Gruffudd yw ei gronicl, sef un o’r testunau naratif mwyaf swmpus a ysgrifennwyd yn yr iaith Gymraeg.

Daw pwysigrwydd Gruffudd fel ffynhonnell i’r amlwg yn rhannau cyfoes y testun, lle seilir y dystiolaeth ar ei brofiadau ei hun. Wrth fynd fel cydymaith i’w feistr, Syr Robert Wingfield, bu’n dyst i nifer o ddigwyddiadau pwysig y cyfnod megis y cyfarfod rhwng breninhoedd Lloegr a Ffrainc ar Faes y Brethyn Euraid, ger Calais, yn ogystal â phrofion Llys Siambr y Seren, Llundain. Mae’n rhoi disgrifiadau byw o’r hyn a welodd ac a glywodd. Mae naratif Gruffudd yn glir ac yn drefnus a defnyddia ddyfeisiadau gweledol megis addurniadau, penawdau a phriflythrennau i ddynodi diwedd un adran a dechrau’r nesaf.

Rhywbryd yn ei hanes, rhannwyd y cronicl yn ddwy. Cedwir y ddwy ran yn awr yn y Llyfrgell Genedlaethol. Roedd rhan gynharaf y cronicl, y cyfeirir ati fel Llawysgrif 5276D, yn eiddo i'r Athro Thomas Powel cyn i’r Llyfrgell ei phrynu wedi ei farwolaeth yn 1922. Bu ail ran y cronicl yn llyfrgell Plas Mostyn, Sir y Fflint (lle y cyfeiriwyd ati fel Mostyn 158) tan i A. Cecil Wright ei phrynu ar gyfer y Llyfrgell Genedlaethol yn 1918. Fe’i hadnabyddir yn awr fel Llawysgrif 3054D.

Llawysgrif NLW 5276D

Mae’r llawysgrif hon yn cynnwys rhan gyntaf cronicl Elis Gruffudd, sydd yn cynnwys dros 500 o ddalennau. Yn y llawysgrif mae’n ceisio disgrifio hanes y byd mewn chwe oes, o’i gread i’r Oes Gristnogol. Roedd y patrwm hwn o esbonio hanes y byd mewn chwe oes yn boblogaidd iawn yn yr Oesoedd Canol. Roedd yn fodd Cristnogol o gyfnodoli hanes a gafodd ei amlinellu gan yr athronydd a’r diwinydd Awstin Sant tua’r flwyddyn 400 OC.

Yn y cronicl mae Elis Gruffudd yn cyfyngu ei ddisgrifiad o bum oes gyntaf hanes y byd i hanner cyntaf y llawysgrif, ac felly i chwarter yr holl gronicl. Mae’n rhoi mwy o sylw i’r chweched oes, sef yr Oes Gristnogol, yn arbennig hanes Prydain a Ffrainc sydd yn parhau yn ail ran y cronicl, sef Llawysgrif 3054D.  Mae’n gorffen y llawysgrif hon gyda hanes y Goncwest Normanaidd yn Lloegr.

Llawysgrif NLW 3054D

Mae Llawysgrif NLW 3054D yn cynnwys ail ran cronicl Elis Gruffudd, sef y rhan sy’n trafod hanes Lloegr a Chymru o gyfnod Gwilym Orchfygwr, hyd at 1552. Ceir 688 dalen ynddi ac fe’i rhwymwyd mewn byrddau derw wedi eu gorchuddio â lledr. Mae’r ddalen gyntaf wreiddiol ar goll.

Mae’r llawysgrif hon yn taflu goleuni ar fywyd Gruffudd ei hun, a hefyd ar fywydau’r Cymry eraill a ymfudodd i Lundain a Chalais. Yn ogystal, gwelwn agwedd y Cymry tuag at y ddau frenin Tuduraidd cyntaf, Harri VII ac VIII, ac mae’n trafod hanesion Cymreig mewn cyd-destun Seisnig.

Darllen pellach

  • J. Hunter, Soffestri'r Saeson (Caerdydd, 2000)
  • T. Jones, ‘A Welsh chronicler in Tudor England’, Cylchgrawn Hanes Cymru, 1 (1960–63), 1–17
  • C. Lloyd-Morgan, ‘Elis Gruffydd a thraddodiad Cymraeg Calais a Chlwyd’, Cof Cenedl, 11 (1996), 31–58
  • P. Morgan, ‘Elis Gruffudd yng Nghalais’, Bwletin y Bwrdd Gwybodau Celtaidd, 21 (1964–6), 214–18
  • Report on manuscripts in the Welsh language, Historical Manuscripts Commission, Cyfrol 1, (1898–1910), (tud. 214–21)
  • Brynley F. Roberts, ‘Gruffudd, Elis (b. c.1490, d. in or after 1556)’, Oxford Dictionary of National Biography, (Rhydychen, 2004)