Yma gallwch weld fersiynau digidol o lawysgrifau o'r cyfnod modern.
Ewch am dro trwy bentref dychmygol Dylan Thomas, Llareggub, neu rhannwch yng ngorfoledd a thristwch ymfudwyr a adawodd Cymru am fywyd gwell. Cipolwg ar hanes modern Cymru arlein.
Hunangofiant rhyfeddol William Owen o Nanhyfer, Sir Benfro, a grogwyd yn 1747 am lofruddiaeth.
Hunangofiant y milwr, Thomas Jeremiah
Hunangofiant Thomas Jeremiah, milwr o’r 23ain Catrawd y Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig, a ysgrifennwyd tua 1837.
Dyddgoviant William Owen Pughe
Dyddiadur y geiriadurwr a’r hynafiaethydd, William Owen Pughe (1759-1835), rhwng 1811-1835.
Cyfrol llawysgrif o lyfrgell John Harries (bu f. 1839), o Bantcoy, Cwrtycadno, Sir Gaerfyrddin, astrolegwr a meddyg, yn cynnwys nifer o swynion darluniadol ac arwyddion astrolegol.
Llyfr cofnodion ac archifau eraill Cymdeithas Ddirwestol Aberystwyth a ffurfiwyd yn 1835.
Dyddlyfrau Syr William Edmond Logan
Sylwadau cymhellol gan y daearegwr o Ganada, 1843-44.
Llythyrau gan Henry Jones (1824-52) a ymfudodd i Efrog Newydd, a'i chwaer, Mary Jones (1831-61) a fudodd i New South Wales.
Llawysgrifau'n ymwneud â Phatagonia
Detholiad o 25 llawysgrif yn ymwneud â Phatagonia.
Llythyron o Ryfel Cartref America
Casgliad o lythyron o faes y gad gan filwr o Gymru, John Griffith Jones (m. 1864).
Llawysgrif o friff yr amddiffyniad yn yr achos yn erbyn Evan a Hannah Jacob o Lethr-neuadd, Llanfihangel-ar-arth, Sir Gaerfyrddin am ddynladdiad ei merch Sarah Jacob, ar 17 Rhagfyr 1869.
Llawysgrifau'n cynnwys achau teuluoedd hynafol de-orllewin Cymru a grynhowyd gan Alcwyn C. Evans, hynafiaethydd o Gaerfyrddin.
Cofrestr o'r drwgweithredwyr a ddaliwyd gan Gwnstabliaeth Sir Aberteifi rhwng 1897 a 1933.
Un o ddrafftiau terfynol o awdl Yr Arwr yn llaw’r bardd Hedd Wyn, a enillodd iddo gadair yr Eisteddfod yn dilyn ei farwolaeth yn 1917.
Dyddiadur Rhyfel Edward Thomas
Dyddiadur rhyfel y bardd a’r awdur Edward Thomas, 1 Ionawr - 8 Ebrill 1917.
Llyfr Cofio Cenedlaethol Cymru
Mae Llyfr Cofio Cenedlaethol Cymru o’r Rhyfel Byd Cyntaf yn cofnodi enwau 35,000 o filwyr, yn ddynion a merched o Gymru a gollodd eu bywydau yn y Rhyfel Byd Cyntaf.
Dyddiadur gan un o nofelwyr mwyaf yr 20fed ganrif.
Cyfrol o sonedau a ysgrifennodd Niclas y Glais pan oedd yn garcharor yn Abertawe a Brixton yn 1940.
Map o Llareggub a luniwyd gan Dylan Thomas (1914-1953) wrth gyfansoddi Under Milk Wood.
Cylchgronau Gwersyll Carcharorion Rhyfel
Cylchgronau a grëwyd gan garcharorion rhyfel Cymreig yng ngwersyll Stalag IVB, yn Yr Almaen yn ystod yr Ail Ryfel Byd.
Melus-seiniau Cymru Cyfeirnod: NLW MS 1940iA
Per-seiniau Cymru Cyfeirnod: NLW MS 1940iiA
Melus geingciau Deheubarth Cymru Cyfeirnod: Dr J. Lloyd Williams Music MSS and Papers AH1/34
Edward Thomas; The Heart of England, 1906 Cyfeirnod: NLW MS 10617B
Edward Thomas; A Castle of Cloud Cyfeirnod: NLW MS 21750D
Edward Thomas; Draft poems, 1914-1915 Cyfeirnod: NLW MS 22920A
Edward Thomas; Fragments of Journals Cyfeirnod: NLW MS 21859C
Edward Thomas; Diary entries Cyfeirnod: NLW MS 22913C
Edward Thomas; Diary, 1900-1901 Cyfeirnod: NLW MS 22900B
Edward Thomas; Diary 1901-1902 Cyfeirnod: NLW MS 22901B
Edward Thomas; Diary, 1902-1904 Cyfeirnod: NLW MS 22902B
Edward Thomas; War Diary, 1917 Cyfeirnod: NLW MS 24030i & iiA
Edward Thomas; Letters to Helen Thomas, 1896-1900 Cyfeirnod: NLW MS 22914C
Edward Thomas; Letters to Helen Thomas, 1901-1913 Cyfeirnod: NLW MS 22915C
Edward Thomas; Letters to Helen Thomas, 1914 Cyfeirnod: NLW MS 22916C
Edward Thomas; Letters to Helen Thomas, 1916-1917 Cyfeirnod: NLW MS 22917C
Edward Thomas; Letters Cyfeirnod: NLW MS 23222B
Edward Thomas; Poems Cyfeirnod: NLW MS 23077C
Edward Thomas; Draft poems, 1916 Cyfeirnod: NLW MS 22921A
Edward Thomas poetry manuscript 1914-[1915] Cyfeirnod: NLW MS 24122B
Edward Thomas letters and poems [1903]-[1922] Cyfeirnod: NLW MS 24123D
William Hibbs Bevan: Diary [c. 1833]-1872 Cyfeirnod: NLW MS 22689B