Papyri Oxyrhyncus

Cyfeirnod: NLW MS 4738D

Papyri Oxyrhynchus yw llawysgrifau hynaf Llyfrgell Genedlaethol Cymru.3 dernyn hynafol o bapyrws o'r Aifft ydynt, yn dyddio o 113 OC hyd y 4edd ganrif. Maent yn esiampl o'r miloedd o bapyri a ddarganfuwyd yn yr Aifft yn yr 1890au, ac er mai papurau cyffredin, pob dydd ydynt, ceir ynddynt hanes gwerthfawr cymdeithas eu cyfnod.

Beth yw papyrws?

Deunydd ysgrifennu hynafol o'r Aifft yw papyrws. Fe'i gwnaed o ddeunydd mewnol y papurfrwyn, planhigyn o lannau afon Nil. Yn wahanol i'r papur a ddefnyddiwn i ysgrifennu heddiw, roedd y papyrws yn ddefnydd trwchus, gwydn a chryf.

Tomenni sbwriel Oxyrhynchus

Tref hynafol yng ngogledd yr Aifft oedd Oxyrhynchus (lle saif tref al-Bahnasa heddiw), tua 160km i'r de-orllewin o Cairo ar un o gamlesi'r afon Nil. Bu'n ddinas lewyrchus yn y cyfnodau Helenistaidd a Rhufeinig, ond erbyn heddiw nid oes bron dim ohoni ar ôl i'w gweld.Fodd bynnag, mae hanes y dref wedi goroesi drwy ysbwriel ei thrigolion a ddarganfuwyd mewn tomenni enfawr tu allan i'r dref.

Ni thalwyd fawr o sylw i Oxyrhynchus fel safle hynafol o bwys tan yr 1890au hwyr pan gloddiwyd y tomenni sbwriel gan ddau bapurolegwr ifanc o'r 'Egypt Exploration Society', Bernard Grenfell ac Arthur Hunt. Yno, o dan lluwchfeydd o dywod, cawsant hyd i werth mil o flynyddoedd o bapyri a oedd wedi eu cadw mewn amodau delfrydol oherwydd lleoliad y dref - nid yw'n glawio bron dim yn y rhan yma o'r Aifft, ac er ei bod ar ochr camlas ni fyddai Oxyrhynchus yn dioddef llifogydd yn flynyddol fel glannau'r afon Nil.

Arwyddocâd hanesyddol Papyri Oxyrhynchus

Fel arfer, dogfennau urddasol, swyddogol, wedi eu cerfio ar feini a oroesodd o'r byd clasurol traddodiadol, ond roedd archif Oxyrhynchus yn anghyffredin a digyffelyb - gan fod ynddi'r hyn na allai safleoedd clasurol Groeg na'r Eidal mo'i ddiogelu - sef papur.

Llu o lawysgrifau yn ymwneud â bywyd bob dydd oedd y mwyafrif o'r papyri, e.e. llythyron preifat, rhestrau siopa a ffurflenni treth incwm, gyda chanran fechan o natur lenyddol, ond yn ogystal cafwyd hyd i nifer fawr o gopïau cynnar o'r Testament Newydd. Fe'u hysgrifennwyd mewn Groeg, yr iaith a ddefnyddiwyd yn yr Aifft yn y cyfnod hwnnw. Pethau dibwys yw'r rhan fwyaf ohonynt, ar un olwg, ond ceir ynddynt flas ar fywyd bob dydd trigolion y ddinas hynafol.

Papyri'r Llyfrgell Genedlaethol

Dosbarthwyd enghreifftiau o bapyri Oxyrhynchus ymhlith amgueddfeydd, llyfrgelloedd a sefydliadau tebyg yng ngorllewin Ewrop, a rhoddwyd 3 o'r dernynnau hynafol yma i'r Llyfrgell Genedlaethol ym mis Medi 1922, sef Llsgr. NLW 4738D. Maent yn cynnwys derbynneb am randaliad o dreth y pen, archeb i gyflenwi pobydd â pherlysieuyn o'r enw fenugreek (corfeillion gwynion) a llythyr gan ŵr o'r enw Demetrianus.

Darllen pellach

  • Egypt Exploration Society: The Oxyrhynchus papyri, Cyfrol XII, (Llundain, 1898-19), rhifau 1521, 1572 a 1590.
  • Parsons, Peter : The city of the sharp nosed fish : Greek lives in Roman Egypt (Llundain, 2007)

Oedd y dudalen yn ddefnyddiol?