Portreadau Milwrol Rhyfel Byd Cyntaf D C Harries

Ffotograffydd o Gymru oedd David Harries neu D C Harries fel y’i hadwaenir (nid oedd y 'C' yn rhan o’i enw swyddogol ond fe’i hychwanegodd er mwyn medru gwahaniaethu oddi wrth eraill â'r un enw ag ef yn ei ardal leol) a oedd yn gweithredu'n bennaf o'i stiwdios yn Stryd y Cei, Rhydaman a 48 Stryd Rhosmaen, Llandeilo o ddechrau'r ugeinfed ganrif hyd ei farwolaeth ym 1940, yn 75 oed.

Mae ei ddelweddau yn rhyfeddol yn yr ystyr eu bod yn rhoi cipolwg i ni o'r gorffennol wrth iddo gofnodi manylion bywyd pob dydd trwy gyfrwng ei gamera. Ymhlith ei gasgliad helaeth o negyddion gwydr a roddwyd i Lyfrgell Genedlaethol Cymru yn dilyn ei farwolaeth, roedd 800 o bortreadau stiwdio o unigolion a grwpiau a wasanaethodd yn y lluoedd arfog yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf.

Yn anffodus, ni chadwyd unrhyw fanylion cyfatebol o hunaniaeth y dynion gyda'r negyddion hyn a hyd heddiw, mae'r mwyafrif ohonynt yn parhau i fod yn anhysbys. Yr hyn y gallwn ei gasglu trwy edrych ar y ffotograffau hyn, fodd bynnag, yw bod llawer yn filwyr a wasanaethodd gyda Chatrodau Cymreig ac iddynt gael tynnu eu lluniau gyda'u hanwyliaid, sy'n awgrymu mai dynion lleol oeddent. Hefyd, trwy edrych ar wisgoedd y milwyr, gwelir bod rhai ohonynt yn arddangos ceibrau gwasanaeth tramor neu streipiau clwyf sydd wedi ein galluogi i bennu dyddiad mwy cywir ar gyfer y ffotograffau. Yn yr un modd, gwelir bod medalau rhai o'r milwyr yn cael eu harddangos yn rhai o’r ffotograffau. Mae hyn hefyd yn ein helpu i ddyddio’r ffotograffau ac yn yr achos hwn yn awgrymu bod eu lluniau wedi cael eu tynnu ar ôl y Rhyfel.

Heb os, mae portreadau milwrol D C Harries yn amhrisiadwy gan eu bod yn dogfennu bywyd a ffotograffiaeth yng Nghymru yn ystod cyfnod y Rhyfel Mawr. Mae’n horiel isod yn dangos detholiad o 200 o'i bortreadau a gafodd eu digido fel rhan o raglen Cymru’n Cofio.

End of content

No more pages to load