Ystâd Penlle'r-gaer

I'r rhan fwyaf y dyddiau hyn pentref bychan ar gyrion dinas Abertawe yw Penlle'r-gaer. Ychydig sy'n sylweddoli fod yna blas bychan ynghyd â llynnoedd cychod, tai tegeirianau, arsyllfa seryddol, rhaeadr artiffisial a gerddi wedi'u tirlunio, wedi sefyll mewn dyffryn neillog gerllaw'r pentref. Dymchwelwyd y plas, ond mae'r llynnoedd, rhaeadrau, yr arsyllfa a rhai o'r coed a'r planhigion yn dal yno. Aeth ystâd Penlle'r-gaer yn angof, ond mae wedi estyn inni etifeddiaeth bwysig.

Teulu Dillwyn Llewelyn ym Mhenlle'r-gaer

Penlle'r-gaer oedd cartref teulu Dillwyn Llewelyn rhwng 1817-1936. Heb amheuaeth, yr oedd y stad yn ei hanterth yng nghyfnod John Dillwyn Llewelyn a'i deulu. Yr oedd gan y teulu diwylliedig hwn ddiddordebau eang gan gynnwys seryddiaeth, botaneg, celf a ffotograffiaeth. Trwy eu diddordeb mewn ffotograffiaeth yr enillasant eu lle mewn hanes.

Nid oedd yn syndod i drigolion Penlle'r-gaer pan gyhoeddodd William Henry Fox Talbot yn 1839 iddo ddarganfod y broses ffotograffig negatif/positif. Yr oedd yn rhannu nifer o ddiddordebau'r teulu ac yn ymwelydd cyson ag ardal Abertawe ers ei blentyndod. 'Roedd Emma, gwraig John Dillwyn Llewelyn, yn gyfnither iddo. Oherwydd eu diddordeb ysol buasai'n rhoi gwybod iddynt am ei arbrofion ffotograffig, a buasai'r teulu yn eu tro yn ceisio efelychu, dadansoddi a gwneud sylwadau ar ei waith.

Ffotograffiaeth ym Mhenlle'r-gaer

Y cyfnod prysuraf am ffotograffiaeth ym Mhenlle'r-gaer oedd y cyfnod rhwng 1841-1856. Yng nghasgliad y Llyfrgell Genedlaethol ceir pump o lyfrau ffotograffig o'r cyfnod hwn ynghyd â nifer o ffotograffau unigol. Mae'r llyfrau ffotograffau yn cynnwys portreadau teuluol anffurfiol, tirluniau, astudiaethau bywyd llonydd a phensaernïaeth. Weithiau mae'n anodd gwybod pwy ymhlith cylch teulu Dillwyn Llywelyn sy'n gyfrifol am ddelweddau unigol. Un rheswm dros hyn yw bod ffotograffiaeth yn weithgarwch i'r holl deulu gyda gwahanol aelodau â chyfrifoldeb dros wahanol gamau yn y broses. Mae'r llyfrau ffotograffau hyn yn cynnwys printiau a baratowyd gan ddefnyddio negyddion caloteip a cholodion gwlyb. Mae natur hamddenol portreadau'r teulu yn gwbl wahanol i'r portreadau ffurfiol iawn a fyddai'n cael eu cynhyrchu gan y stiwdios proffesiynol. Mae natur gartrefol y teulu o flaen y camera yn datgelu eu bod i gyd yn teimlo'n gartrefol y tu ôl i'r camera hefyd. Byddai'n hanner canrif neu fwy cyn i'r byd yn gyffredinol deimlo'r un mor gartrefol â hyn o flaen y camera.

Cyfnod yn dod i ben

Pylodd diddordeb y cylch mewn ffotograffiaeth tua diwedd y 1850au. Priododd Thereza a Mary a symud o Benlle'r-gaer. Ni wyddom a fu gan Calvert Richard Jones ddiddordeb mewn ffotograffiaeth ar ôl 1856. Erbyn yr 1860au 'roedd ffotograffiaeth wedi troi'n fasnachol. Yn dilyn datblygiadau technegol pellach yr oedd y broses o dynnu ffotograffau wedi dod yn haws ac 'roedd stiwdios yn dechrau ymddangos ar bob stryd fawr. Diogelwyd yr atgofion am y cyfnod aur hwnnw o dynnu ffotograffau ym Mhenlle'r-gaer mewn ffotograffau cochddu ar dudalennau llyfrau ffotograffau teulu Dillwyn Llywelyn.