Arloeswyr Cymreig

Abertawe yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg

Dechrau'r bedwaredd ar bymtheg 'roedd Abertawe yn borthladd a thref farchnad lewyrchus yn sgil diwydiannu cyflym. Ar y cychwyn daethpwyd â mwynau copr o Gernyw, yna o ogledd Cymru ac Iwerddon, ac yna o Sbaen, Ciwba a de America i'w mwyndoddi gan ddefnyddio'r tanwydd helaeth a oedd ar gael yn y de. Daeth y dref yn fyd-enwog am ei gweithfeydd metel heblaw am haearn. Dim ond Merthyr Tudful oedd yn debyg i'r lle o ran maint yng Nghymru. Ond yn wahanol i foelydd llwm a noeth Merthyr 'roedd Abertawe yn lle dymunol a oedd yn denu ymwelwyr i ymweld a'r bae a phrofi awyr y môr.

Arloeswyr Cymreig

'Roedd y teuluoedd mawr wedi parhau i fyw yn yr ardal gan gymryd diddordeb personol yn y diwydiannau newydd oedd o'u cwmpas. Gwnaeth teulu Vivian, Abaty Singleton (o Gernyw yn wreiddiol) ffortiwn o smeltio copr. Cwblhaodd John Henry Vivian a'i fab Henry Hussey Vivian ill dau eu haddysg drwy astudio dulliau cynhyrchu metel yn yr Almaen a Ffrainc. Yr oedd hen deuluoedd y dref hefyd yn ymwybodol iawn o werth gwyddoniaeth. Pan sefydlwyd Sefydliad Brenhinol De Cymru, fel cymdeithas wyddonol yn bennaf, yn Abertawe yn 1835, yr oedd y sylfaenwyr yn cynnwys aelodau o bron bob un o deuluoedd amlwg y dref.

Pwy oedd pwy?

Ar yr olwg gyntaf gall yr holl frodyr a chwiorydd, cefnderwyr a chyfnitherod, a chyfeillion sy'n ymddangos yn llyfrau ffotograffau Dillwyn Llewelyn ymddangos yn gymysglyd iawn. Isod ceir gwybodaeth fywgraffyddol am y nifer o'r rheiny sy'n ymddangos yn y llyfrau ffotograffau neu sy'n gysylltiedig â hwy.

Aelodau o deulu Dillwyn Llewelyn

John Dillwyn Llewelyn (1810-1882)

Sgweier Penlle'r-gaer a briododd Emma Thomasina Talbot (1806-1881) yn 1833. Yr oedd hi'n gyfnither i William Henry Fox Talbot, dyfeisydd y broses ffotograffig negatif-positif. Yn ystod ei gyfnod ym Mhenlle'r-gaer fe fu'n brysur yn tirlunio'r ystâd gan greu dau lyn yno, codi tai ar gyfer tyfu tegeirianau ac arsyllfa seryddol. Daeth yn ffotograffydd brwd a chrefftus ac yntau a ddyfeisiodd y broses oxymel.

Thereza Mary (1834-1926)

Merch hynaf John Dillwyn Llewelyn. Yr oedd ganddi ddiddordeb mawr mewn ffotograffiaeth a seryddiaeth. Yn 1858 priododd Nevil Story-Maskelyne o Basset Down, swydd Wiltshire, wyr Nevil Maskelyne a fu'n Seryddwr Brenhinol.

John Talbot (1836-1927)

Mab hynaf John Dillwyn Llewelyn, a fu'n faer Abertawe yn 1891, yn aelod seneddol dros y dref 1895-1990 a'r aelod olaf o'r teulu i fyw ym Mhenlle'r-gaer.

Emma Charlotte (1837-1928)

Trydydd plentyn John Dillwyn Llewelyn. Yr oedd Emma yn arlunydd brwd a briododd Henry Crichton gan symud i fyw yng Nghleirwy, Sir Frycheiniog. Yr oedd hithau a'i gwr yn cydoesi â'r Parchg Francis Kilvert.

William Mansel (1838-1866)

Ganwyd William Mansel, neu Willy, ar ddydd Nadolig. Graddiodd o Rydychen a phan fu farw yr oedd yn lefftenant yn yr Hussars. Tynnwyd ei lun yn aml pan oedd yn blentyn.

Elinor Amy (1844-1887)

Roedd Elinor yn lluniedydd talentog, ond fe ddioddefodd o iechyd gwael am y rhan fwyaf o'i bywyd.

Lucy Caroline (1846-1920)

Merch ieuengaf y teulu, yr oedd Lucy hefyd yn arlunydd talentog ac mae'n debyg iddi fod ag anabledd o'i genedigaeth.

Perthnasau teulu Dillwyn Llewelyn

Lewis Llewelyn Dillwyn (1814-1892)

Brawd ieuengaf John Dillwyn Llewelyn a briododd Bessie de la Beche. Yn ddiweddarach daeth yn aelod seneddol, etholwyd ef yn faer Abertawe ac ar un adeg yr oedd yn un o gyfarwyddwyr y Great Western Railway.

Mary Dillwyn (1816-1906)

Chwaer ieuengaf John Dillwyn Llewelyn a ffotograffydd benywaidd cynnar nodedig. Priododd y Parchg Wilby yn 1857 a phylodd ei diddordeb mewn ffotograffiaeth. Bu Mary farw yn Arthog, Meirionnydd fis Rhagfyr 1906.

Syr Thomas Mansel Franklen (1840-1928)

Nai i Christopher Rice Mansel Talbot, trydydd mab Richard Franklen o Clemenstone ac un a oedd ganddo ddiddordeb mawr mewn ffotograffiaeth. Rhoddodd 150 o'i negyddion gwydr yn rhodd i'r Amgueddfa Genedlaethol. Wedi'i farwolaeth rhoddwyd llawer o'i bapurau i'r Llyfrgell Genedlaethol yn rhodd, gan gynnwys Llyfr ffotograffau LlGC 249.

Susan Franklen (1835-1860)

Chwaer i Syr Thomas Mansel Franklen a chyfnither i deulu Dillwyn Llywelyn. Mae'n debyg iddi ddioddef o afiechyd gydol ei bywyd a marw yn dilyn annwyd trwm. Mae arysgrif y tu mewn i Llyfr ffotograffau Mary Dillwyn (Llyfr ffotograffau LlGC 3900) yn awgrymu i'r llyfr gael ei gasglu ynghyd yn anrheg iddi hi.

Syr Henry de la Beche (1796-1855)

Daearegydd, a thad-yng-nghyfraith Lewis Llewelyn Dillwyn.

Matthew Moggridge (-1882)

Archeolegydd a briododd Fanny (1808-1894), chwaer hynaf John Dillwyn Llewelyn. Ef oedd tad J. Traherne Moggridge a gweithredodd fel ynad heddwch yn ystod terfysgoedd Beca.

J. Traherne Moggridge (1842-1874)

Nai John Dillwyn Llewelyn ac yn entomolegydd a biolegydd a fu'n llythyru gyda Charles Darwin. Rhoddwyd Llyfr ffotograffau LlGC 1 yn rhodd iddo gan ei fam Fanny, chwaer hynaf John Dillwyn Llewelyn.

Cyfeillion teulu Dillwyn Llewelyn ac eraill

William Henry Fox Talbot (1800-1877)

Yr oedd ganddo gysylltiad â theulu Dillwyn Llewelyn o'i blentyndod. Yr oedd yn gefnder i Emma, gwraig John Dillwyn Llewelyn, ac fe dreuliodd llawer o wyliau ysgol yng Nghastell Pen-rhys ar benrhyn Gwyr. Ef oedd dyfeisydd y broses ffotograffig negatif-positif.

Calvert Richard Jones (1804-1877)

Brodor o Abertawe a addysgwyd yn Rhydychen. Yn fathemategydd ac arlunydd galluog fe dreuliodd gyfnod byr yn rheithor Casllwchwr. Yr oedd yn gyfaill i John Dillwyn Llewelyn a Christopher Rice Mansel Talbot. Er iddo gael y clod am dynnu'r ffotograff cynharaf Cymreig i'w ddyddio'n bendant, sef daguerreoteip Castell Margam 1841, mae'n ymddangos iddo roi'r gorau i ffotograffiaeth yn 1856.

Caroline, Dulcie & Emily Eden

Tair merch o deulu cyfoethog a oedd yn ymwneud â'r diwydiant metel a bywyd dinesig yn Abertawe. Maent yn ymddangos yn nifer o'r ffotograffau a dynnwyd gan deulu Dillwyn Llewelyn.

Mrs Hussey Vivian (-1868)

Ail wraig y diwydiannwr copr amlwg Henry Hussey Vivian yn 1853. Fe'i hadnabuwyd fel Flora. Yr oeddent yn byw ym Mharc Wern. Dioddefodd afiechyd gwael a bu'n glaf am weddill ei bywyd.

Ernest Vivian (1848-1922)

Ernest Ambrose Vivian oedd ail Arglwydd Faer Abertawe. Y mae'n ymddangos yn Llyfr ffotograffau LlGC 3900 yng nghwmni ei fam-gu, Mrs Sarah Vivien.

R. O. Dougan

Fe'i ganwyd yn Illford, Lloegr. Astudiodd Dr. Robert Ormes Dougan yng Ngholeg Prifysgol, Llundain ac yng Ngholeg y Drindod, Dulyn. Derbyniodd swydd fel llyfrgellydd Coleg y Drindod lle datblygodd ddiddordeb yn Llyfr Ceannus Mór neu Kells. Ar hap cyfarfu â Henry Huntington ac o ganlyniad fe'i hapwyntiwyd yn llyfrgellydd Llyfrgell Huntington yn 1958 hyd nes iddo ymddeol i Santa Barbara yn 1972. Prynodd y Llyfrgell Genedlaethol Lyfrau ffotograffau LlGC 1 a 2 ganddo yn 1954.