Albwm Llysdinam, Mary Dillwyn

Cyfeirnod: 004455920

Mary Dillwyn (1816-1906)

Un o bedwar o blant Lewis Weston Dillwyn (1778-1855) a Mary Adams (1776-1865) o stâd enwog a phrydferth Penlle’r-gaer ger Abertawe oedd Mary Dillwyn, felly roedd hi yn y man delfrydol i ddysgu ac ymddiddori yn y grefft o ffotograffiaeth yng nghanol y 19eg ganrif. Ysgrifennwyd tipyn am frawd hŷn Mary Dillwyn, sef John Dillwyn Llewelyn (1810-1882).  Mae’n adnabyddus heddiw fel ffotograffydd cynharaf Cymru ond fel sydd yn digwydd yn aml mewn astudiaethau hanesyddol, ni roddwyd yr un sylw i dalentau ffotograffig aelodau benywaidd y teulu. Mary Dillwyn oedd ffotograffwraig gynharaf Cymru a hi yw un o ffotograffwyr benywaidd cynnar mwyaf nodedig Prydain. Dyma’r ail albwm ffotograffig ganddi i gael ei ddigido gan y Llyfrgell.

Albwm Llysdinam

Crëwyd yr albwm oddeutu 1853, cyn i Mary briodi'r Parchedig Welby yn 1857 a gadael Penlle’r-gaer. Prynodd y Llyfrgell yr albwm hwn yn 2007 gan Ystâd Llysdinam, Sir Frycheiniog, sef ystâd a ddaeth dan berchnogaeth teulu Dillwyn Llewelyn yn y 1890au. Mae’r albwm yn un bychan iawn o ran maint, yn mesur 12 x 9.7 cm, ac mae’n cynnwys 72 dalen liwgar â 46 ffotograff, gyda 22 o’r ffotograffau yma yn rhydd o fewn yr albwm. Mae ganddo rwymiad prydferth o ledr glas tywyll gydag addurniad o ddail aur o’i amgylch. Mae’r ffotograffau yn brintiau halen o’r broses ‘calotype’ a ddyfeisiwyd rhwng 1835 a 1841 gan William Henry Fox Talbot (1800-1877) sef ffrind agos i’r teulu a chefnder i wraig John Dillwyn Llewelyn. Papur print halen oedd y math cyntaf o bapur print i gael ei ddefnyddio mewn ffotograffiaeth. Golygai hyn bod modd creu copïau diddiwedd o’r un ddelwedd; proses ffotograffig sy’n dal i gael ei defnyddio heddiw.

O fewn dalennau’r albwm prydferth hwn ceir cipolwg gwerthfawr ar fywyd preifat Mary Dillwyn yn y plasty. Ceir ffotograffau o flodau megis briallu a wisterias, yn ogystal â ffotograffau o ddoliau, adar ac anifeiliaid anwes. Ceir hefyd ffotograffau o ffrindiau a theulu gan gynnwys un hyfryd o fachgen ifanc gyda’i gi. Y ddelwedd fwyaf trawiadol yw ffotograff o Mary Dillwyn gyda’i ffrindiau, Frances Denman a Dulcie Eden, dwy foneddiges leol yn eistedd y tu allan i Benlle’r-gaer yn eu ffrogiau mawr gosgeiddig. Mae’r ddelwedd mor naturiol fel ei bod yn gwneud i rywun deimlo’n rhan o’r llun ac mae’n dangos bod Mary’n awyddus i bortreadu ei hun gyda’i ffrindiau.

Gwragedd a ffotograffiaeth

Roedd Mary Dillwyn o flaen ei hamser yn ymddiddori yn y dechnoleg newydd a chwyldroadol hyn. Dywedodd yr awdur Martin W. Sandler: ‘Of all the inventions in a great age of innovation, it was the camera that offered women the best opportunity for creative expression’. Roedd y camera yn rhoi annibyniaeth radical newydd i ferched. Tra’r oedd y byd celf academaidd erioed wedi bod yn anffafriol i wragedd, roedd ffotograffiaeth yn llawer mwy agored iddynt yn enwedig gan fod nifer ohonynt yn hunanddysgedig yn y grefft.

Yn ystod Oes Fictoria roedd yr arfer o gasglu ffotograffau a llenwi albymau yn boblogaidd iawn ymysg gwragedd y dosbarthiadau uwch. Y camsyniad a geir yn aml am y diddordeb hwn oedd ei fod yn hobi amhwysig a oedd yn llenwi’u hamser hamdden diddiwedd gan nad oedd ganddynt yr un rhyddid cymdeithasol â dynion. Dywed Asa Briggs yn anystyriol yn ei llyfr A Victorian Portrait, ‘Many talented women wiled away rainy days or long winter evenings by embellishing the family photograph albums’. Y gwirionedd oedd bod albymau o’r fath yn rhoi llais creadigol i wragedd fedru cyfleu eu hunaniaeth. Dywed yr awdur Patrizia Di Bello, ‘Women’s albums were an important aspect of the visual culture of the time, crucial sites in the elaboration and codification of the meaning of photography, as a new, modern visual medium’.

Darllen Pellach

  • Asa Briggs & Archie Miles, A Victorian portrait : Victorian life and values as seen through the work of studio photographers (Llundain: Cassell, 1989)
  • Mark Howarth-Booth (ed.), The Golden Age of British Photography, 1839-1900 (Llundain, Efrog Newydd: Aperture Press, 1984)
  • Martin W. Sandler, Against the Odds: Women Pioneers in the first hundred years of photography (Rizzoli International Publications, 2002)
  • Naomi Rosenblum, A History of Women Photographers (Paris, Llundain, Efrog Newydd: Abbeville Press Publications Inc., 1994)
  • Patrizia Di Bello, Women’s Albums and Photography in Victorian England: Ladies, Mothers and Flirts (Aldershot: Ashgate Publishing Limited, 2007)
  • Richard Morris, John Dillwyn Llewelyn 1810-1882: The First Photographer in Wales (Caerdydd: Arddangosfa Deithiol Cyngor Celfyddydau Cymru, 1980)
  • Victoria Olsen, From life, Julia Margaret Cameron & Victorian Photography (Llundain: Aurum press, 2003)