Yma gwelwch fersiynau digidol o beth o gasgliad ffotograffig y Llyfrgell.
O'r delweddau dirdynol sy'n cofnodi trychineb ofnadwy Senghennydd, i gasgliad anhygoel Geoff Charles sy'n dysteb i'r bywyd Cymreig. Mae casgliad ffotograffig y Llyfrgell yn cofnodi bob agwedd o'r bywyd Cymreig.
Casgliad Ffotograffau Mewn Casys
Casgliad o wahanol fathau o ffotograffau cynnar, gyda’r rhan fwyaf ohonynt yn dal yn eu casys lledr, efydd a melfed gwreiddiol.
Ffotograffiaeth Gynnar Abertawe
Ffotograffau cynnar, o ardal Abertawe (1840-1860).
Albwm ffotograffig gan Mary Dillwyn, ffotograffwraig gynharaf Cymru ac un o ffotograffwyr benywaidd cynnar mwyaf nodedig Prydain
Tir a phobl Cymru trwy gamera John Thomas (1838-1905), Lerpwl.
Ffotograffau gan Carleton E Watkins (1829-1916), un o brif ffotograffwyr tirlun America yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg.
Ffotograffau gan P B Abery o sir Frycheiniog a'r Gororau.
Cyfres o gardiau post yn cofnodi'r trychineb mwyaf yn hanes diwydiant glo Cymru, 1913.
Casgliad H W Lloyd, Y Bala o negatifau o’r cyfnod rhwng 1900 a 1925, yn cynnwys delweddau o garcharorion rhyfel Gwersyll Frongoch.
Archif enfawr y ffoto-newyddiadurwr Geoff Charles (1909-2002).
Ffotograffau a sleidiau o Batagonia a dynnwyd gan W R Owen (1955 a 1965)