Y llyfr printiedig Cymraeg cyntaf : Yny lhyvyr hwnn (1546)

Yng nghanol y bymthegfed ganrif dyfeisiodd Johannes Gutenberg (1397?-1468) ddull o fecaneiddio cynhyrchu teip argraffu yn hytrach na gorfod llunio pob llythyren â llaw. Golygai hyn ei bod hi'n bosib cynhyrchu llyfrau mewn niferoedd sylweddol. Beibl Gutenberg a argraffwyd ym Mainz, yr Almaen tua 1454-5 oedd y llyfr cyntaf o bwys i'w argraffu yn y gorllewin gan ddefnyddio teip symudol.

 

Aeth bron i ganrif heibio cyn i'r ddyfais newydd gael ei defnyddio ar gyfer argraffu llyfr Cymraeg. Yn 1546 cyhoeddwyd Yny lhyvyr hwnn... gan John Price o Aberhonddu. Cafodd y llyfr ei argraffu yn Llundain gan Edward Whitchurch a fyddai'n ddiweddarach yn gyfrifol am argraffu Llyfr Gweddi Gyffredin cyntaf Edward VI yn 1549.

Roedd John Price (c.1502-55) yn uchelwr ac yn was sifil pwysig. Yntau oedd ysgrifennydd Cyngor Cymru a'r Mers a bu hefyd yn un o'r swyddogion gyda chyfrifoldeb am weinyddu diddymiad y mynachlogydd yn yr ardal honno. Yr oedd hefyd yn ysgolhaig a gofleidiai syniadau diweddara'r oes ynglŷn â chrefydd a dysg: sef diwygiad a dyneiddiaeth. Gwyddys hefyd ei fod yn gasglwr llawysgrifau ar wahanol bynciau, gan gynnwys hanes a llenyddiaeth ein gwlad.

Mae cynnwys Yny lhyvyr hwnn yn adlewyrchu diddordebau'r awdur, yn enwedig yr awydd yn deillio o'r gred bod angen diwygiad mewn crefydd i sicrhau fod pobl gyffredin yn dysgu prif sylfeini'r ffydd Gristnogol, neu fel y dywed yr awdur ei hun 'y pynkeu y sy mor anhepkor'. Wrth gwrs byddai'n rhaid dysgu pobl i ddarllen yn gyntaf, felly ceir yn y llyfr yr wyddor, a cyfarwyddyd ar sut i ddarllen Cymraeg a sut i rifo, ynghŷd â chalendr, yn ogystal â Chredo'r Apostolion, Gweddi'r Arglwydd ac amryw o destunau Cristnogol eraill.

Darllen pellach