Y Drych Cristianogawl

Mae'r "Drych Cristianogawl" yn enghraifft o lyfr Cymraeg Catholig cynnar a dyma'r llyfr cyntaf i'w argraffu ar dir Cymru.

Rhaid oedd argraffu llyfrau mudiad gwrthddiwygiad y 16 a'r 17 ganrif naill ai ar weisg tramor neu ar rai cudd yn yr ynysoedd hyn gan fod y gyfraith yn gwahardd argraffu llyfrau Catholig yn Lloegr. Ymdrechodd rhai o Gatholigion Cymreig y cyfnod i drefnu argraffu a chyhoeddi nifer bychan o lyfrau Cymraeg i'w cynorthwyo gyda'u gweithgaredd cenhadu. Y llyfr Catholig Cymraeg cyntaf i'w argraffu ar y Cyfandir oedd "Athrauaeth Gristnogaul" Morys Clynnog (Milan, 1568) a chredir mai'r cyntaf o'r dyrnaid bychan o gyfrolau i gael eu hargraffu ar weisg cudd yng Nghymru oedd "Y Drych Cristianogawl". Cynnyrch gwasg ddirgel a leolwyd mewn ogof ar Benrhyn Rhiwledyn ger Llandudno ydyw.

Mae testun printiedig y "Drych" yn ei briodoli i un G.R. o ddinas Milan. Arferid credu mai Gruffydd Robert (cyn 1532 - wedi 1598), y gramadegydd Catholig, oedd y G.R. hwn, gŵr a fu'n preswylio ym Milan am lawer blwyddyn. Bellach sylweddolwyd fod arddull iaith y llyfr yn gwbl wahanol i un Gruffydd Robert ond yn ymdebygu'n fawr i un yr offeiriad cenhadol a'r awdur Robert Gwyn (c.1540/50 - 1592/1604), brodor o Lanarmon ger Pwllheli. Pwnc y "Drych" yw dysgeidiaeth Eglwys Rufain am y Pedwar Peth Olaf, sef Angau, Dydd y Farn, Uffern a'r Nefoedd. Ceir tystiolaeth bod y testun mewn bodolaeth mewn llawysgrif erbyn 1583/84 ac i Gwyn gyfarfod y cenhadon o Saeson Robert Persons ac Edmund Campion yn 1580 i drafod sut i oresgyn y cyfyngiadau cyfreithiol a fodolai ar gyhoeddi llyfrau Catholig. Os mai Gwyn yw'r awdur, nid oes unrhyw dystiolaeth i'w gysylltu â menter Rhiwledyn er ei bod yn gwbl bosibl fod ganddo ran yn y cynllun.

Dengys ffynonellau cyfoes i argraffu Rhiwledyn ddigwydd ar ddiwedd y flwyddyn 1586 a dechrau'r flwyddyn ganlynol ar dir oedd yn eiddo i'r uchelwr Catholig Robert Pue o Benrhyn Creuddyn. Chwaraeodd Pue ran amlwg yn y fenter ynghyd ag argraffydd o'r enw Roger Thackwell a chwe gŵr arall, yn eu plith yr offeiriad William Davies a ferthyrwyd ym Miwmares rai blynyddoedd yn ddiweddarach. Er mwyn twyllo'r awdurdodau, rhoddwyd argraffnod Lladin ffug i'r llyfr, un sydd yn hawlio iddo gael ei argraffu yn Rouen yn 1585. Fe sylwir hefyd i lythrennau cyntaf enw Robert Gwyn gael eu troi o'r tu chwith yn fwriadol, hynny yw os mai ef sydd biau'r gwaith. Y rhan gyntaf yn unig o'r testun a argraffwyd er bod bwriad yn ôl y rhagymadrodd i argraffu'r cyfan. Bu'n rhaid i'r fintai ffoi pan ddaeth newyddion am y gweithgareddau yn yr ogof i glyw yr awdurdodau. Yn ddiweddarach yn y flwyddyn 1587 daeth y llywodraeth ar draws gwasg ddirgel yn nhŷ'r meddyg a'r ysgolhaig Siôn Dafydd Rhys (1534-c.1619) yn Aberhonddu. Awgrymwyd fod bwriad i argraffu gweddill y testun yno ond ni cheir tystiolaeth i gadarnhau hyn. Goroesodd testun cyflawn y "Drych" mewn un llawysgrif yn unig, un y gellir ei dyddio i'r flwyddyn 1600.

Mae'r "Drych Cristianogawl" yn bwysig fel enghraifft o lyfr Cymraeg Catholig cynnar a hefyd am y ffaith mai dyma'r llyfr cyntaf i'w argraffu ar dir Cymru. Argraffwyd llyfrau'r cyfnod cyn 1586/87 yn Lloegr ar wahân i gyfrol Morys Clynnog sydd yn gynnyrch gwasg ym Milan. Mae pedwar copi o'r llyfr ar glawr, tri ohonynt yn amherffaith. Dengys ei olwg a'i wedd mai yn y wlad hon ac nid yn Ffrainc yr argraffwyd ef. Yn ddiau mae stori argraffu'r "Drych" yn stori ramantus ac yn un o ddewrder yn wyneb peryglon. Ni lwyddwyd i adnabod i sicrwydd yr ogof a ddefnyddiwyd gan Pue a'i ddilynwyr. Un posibilrwydd yw i'r ogof berthnasol gael ei difrodi gan waith cwmni chwarel yn y blynyddoedd cyn dechrau'r Rhyfel Byd Cyntaf.

Darllen pellach

  • Gruffydd, R. Geraint. Argraffwyr cyntaf Cymru: gwasgau dirgel y Catholigion adeg Elisabeth... Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru, 1972.
  • Jones, Philip Henry and Eiluned Rees, eds. A nation and its books: a history of the book in Wales... Aberystwyth: Llyfrgell Genedlaethol Cymru mewn cydweithrediad â Chanolfan y Llyfr Aberystwyth, 1998.

Oedd y dudalen yn ddefnyddiol?