J M W Turner

Caiff J. M. W. Turner (1775-1851) ei gydnabod fel yr arlunydd tirlun pwysicaf yn hanes celf yng ngwledydd Prydain. Roedd ei gyfraniad yn fawr ym mhob agwedd ar y maes. Yn ystod gyrfa hir a llewyrchus cafodd ei gydnabod fel athrylith a gwerthfawrogwyd ei gelfyddyd hyd yn oed yn fwy na gweithiau hyfryd a phrin ei gydoeswyr fel Thomas Girtin a John Robert Cozens.

Dangosodd Turner, mab i farbwr o Covent Garden, Llundain, allu mawr yn ifanc iawn ac fe'i hanogwyd gan ei dad i fynd yn arlunydd. Yn y ddeunawfed ganrif a'r bedwaredd ar bymtheg roedd Piazza Covent Garden yn ganolfan boblogaidd ar gyfer stiwdios arlunwyr. Roedd gan Richard Wilson, yr arlunydd o Benegoes, stiwdio ar y Piazza ac mae'n sicr fod arlunwyr yn rhan o fywyd yn y rhan honno o Lundain.

Wedi'i hyfforddi fel dylunydd topograffyddol a phensaernïol, buan iawn y dysgodd Turner gan ei feistr celf cyntaf, Thomas Malton, ac erbyn 1790 yr oedd wedi arddangos llun dyfrlliw yn yr Academi Frenhinol, Llundain. Yr un flwyddyn fe gofrestrodd fel myfyriwr yn yr Academi lle ddysgodd gelf aruchel tirlun pur.

O gyfnod cynnar yn ei yrfa roedd Turner yn mwynhau teithio i dynnu lluniau mewn safleoedd penodol. Parhaodd â'r arfer am flynyddoedd gan deithio ar hyd a lled Ynys Prydain a thir mawr Ewrop i weld golygfeydd prydferth.

Ni phriododd Turner, a phan bu farw daeth ei gasgliad enfawr yn eiddo i'r wladwriaeth. Wedi hanes hir a throellog, mae Cymynrodd Turner yn awr o dan un to yn Oriel Clore, Tate Britain. Ceir casgliadau pwysig o'i waith hefyd yn Oriel Whitworth (Manceinion), Oriel Gelf Fitzwilliam (Caergrawnt) ac Amgueddfa Ashmole (Rhydychen), Ceir nifer o'i weithiau dyfrlliw o Gymru yn yr Amgueddfa Genedlaethol, ac fe dderbyniwyd rhai ohonynt yn rhodd gan y chwiorydd Davies o Landinam.

Roedd gan Turner allu arbennig i gyfuno topograffeg, hanes ardal a golygfeydd cyfoes yr oedd ef ei hun wedi'u gweld a'u cofnodi. Yng Nghymru canfu Turner dirlun a phobl o ddiddordeb eithriadol. Galluogai'r amrywiaeth o fryniau, mynyddoedd a dyffrynnoedd mewn gwlad gymharol fechan ei fod yn medru darganfod holl gyfoeth y lle o fewn ychydig wythnosau. Yr oedd hanes rhamantus Cymru hefyd yn dynfa i Turner ac ar droad y ganrif ymddiddorai'n fawr iawn mewn mythau, hen hanes a drama'r drasiedi ddynol. Mae'n debyg ei fod wedi bod yn darllen hanes Cymru ac yn ymwybodol o stori fawr y gorchfygu a'r gwrthryfela. Darllenodd Tours of Wales Thomas Pennant gan nodi llefydd pwysig i ymweld â hwy.

Nid yn unig yr adlewyrchir y diddordebau cynnar hyn yn y ddau baentiad gan Turner sy'n eiddo i'r Llyfrgell ond gwelir hefyd ei arbrofi gyda chyfrwng a chyda'r broses o gyfansoddi darlun. Gweithiwyd Abderdulais yn ei stiwdio allan o un lluniad pensel, a oedd wedi'i dynnu yn y lle yn ystod haf 1795. Mae'r lluniad hwnnw, ar dudalen 6 o Lyfr lluniadu de Cymru Turner, yn gofnod manwl o'r olygfa. O'i gymharu gyda'r paentiad dyfrlliw gorffenedig gwelir bod nifer o elfennau wedi'u cryfhau a'u pwysleisio fel bod stori yno i ddod â bywyd i'r olygfa. Datblygodd Dolbadarn mewn modd llawer mwy cymhleth, er mai cwta tair blynedd sydd rhwng gorffen Aberdulais a dechrau Dolbadarn. Treuliodd Turner gryn dipyn o amser yn paratoi llawer o luniadau i gynorthwyo'r gwaith ar Dolbadarn; nid yw ei holl fwriadau yn glir, ond mae'n amlwg ei fod wedi ystyried y pwnc fel un oedd yn haeddu ymdriniaeth greadigol ofalus iawn. Mae'r panel sydd yn awr yn y Llyfrgell yn ganlyniad i weithio ar bapur yn gyntaf, a dim ond pan oedd y cysyniad cyfan yn barod yr aeth ati i greu y darn prin hwn ar banel bychan. Mae'n debyg i Turner ddefnyddio'r fersiwn hwn wedyn i beintio'r gwaith olew ar gynfas llawer mwy a gyflwynodd i'r Academi Frenhinol.

Gyda'i gilydd mae'r ddau waith yn nodi'r traddodiad deuol o dirlun topograffyddol pur a chyfansoddiad Rhamantus sy'n perthyn i draddodiad celf gwledydd Prydain. Maent hefyd yn pwysleisio'r amrywiaeth sy'n bodoli o fewn casgliad darluniau y Llyfrgell.