Tirlun Cymru - Arlunwyr

David Cox 1783 – 1859

Nid oes amheuaeth ynglŷn â phwysigrwydd David Cox fel arlunydd yng Nghymru. Bu’n gweithio yn gyson yn y wlad wedi ei ymweliad cyntaf yn y flwyddyn 1805, ac wedi hynny yn ystod tymor yr haf pob blwyddyn, rhwng 1844 a 1856.

Yn ystod y blynyddoedd hyn, bu'n ymwelydd cyson â’r Royal Oak ym mhentref Betws-y-Coed, a defnyddiodd ei ymweliadau niferus â’r fro i astudio tirwedd Cymru mewn paent ac inc. Bu ei astudiaethau yn llwyddiant ysgubol, gan beri i Selby ddatgan fod y Royal Oak yn agosáu at fod yn academi artistig i arlunwyr tirlun.

Dilynodd llawer Cox i ardal Betws-y-Coed, gan gryfhau’r syniad, ymysg poblogaeth Lloegr, am Gymru fel gwlad fytholegol o harddwch naturiol arbennig.

Gwelwn David Cox ar ei orau yng nghasgliad Tirlun Cymru, yn arbennig yn ei astudiaethau ysgythru o fynyddoedd Eryri.

Roedd yn arbenigwr mewn golau a chysgodion, gan ddeall yr awch ymysg cymdeithas gefnog Lloegr at yr hyn a elwir yn ddarluniadol ‘picturesque’.

Paul Sandby 1725 – 1809

Bu Syr Watkin Williams-Wynn yn gyfrifol am noddi Paul Sandby i weithio fel arlunydd yng Nghymru. Teithiodd yn helaeth ar hyd y wlad yn darlunio golygfeydd o harddwch naturiol. Ymgartrefodd y darluniau hyn yng nghasgliad teulu Wynnstay, ac o’r herwydd, printiau o’r casgliad hwn yw rhan helaeth o waith Sandby yng nghasgliad Tirlun Cymru.

Trwy gydol ei oes, bu Sandby â diddordeb yn nhirwedd gwyllt Sir Benfro, gan greu astudiaethau medrus o arfordir y sir honno. Ni chyfyngodd ei hun i ddarlunio'r sir honno'n unig gan iddo deithio Cymru benbaladr, o sir Fôn i sir Fynwy, yn darlunio tirwedd gwyllt ac anhysbys y wlad.

Henry Gastineau 1791 – 1876

Astudiodd Gastineau yn yr Academi Frenhinol, lle dysgodd ei grefft fel arlunydd. Wedi ei addysg, teithiodd o gwmpas Prydain, yn arbennig o gwmpas Cymru, yn darlunio’r tirwedd ac adeiladau o bwys hanesyddol.

Fe’i etholwyd yn gymrawd yr ‘Old Watercolour Society’ yn 1821, ac yn aelod llawn o’r gymdeithas erbyn 1823.

Mae’r darluniau yng nghasgliad Tirlun Cymru yn dangos crefft Gastineau, a’i allu i bortreadu Cymru fel gwlad oedd yn sefyll ochr yn ochr â gwledydd mawr Ewrop megis y Swistir ac Awstria, mewn harddwch naturiol. Gwelwn ddarluniau o gestyll a mynyddoedd, arfordiroedd ac adeiladau o bwysigrwydd hanesyddol.

Yr hyn sydd yn bwysig yn ei waith, yw ei allu i bortreadu Cymru, gan greu naws hynod o wareiddiad Cymreig, gwareiddiad sydd yng nghlwm wrth y tir a’r tirwedd.

Symudodd i Lundain erbyn diwedd ei oes, i weithio fel arlunydd yn Camberwell, a bu farw ym mis Ionawr 1823.

John Preston Neale 1780 – 1847

Bu Neale yn gweithio am flynyddoedd ar y gyfrol, Beauties of England and Wales, gan John Britton 1771 - 1857. Astudiaeth dopograffig o wledydd Prydain ydoedd ac fe gymerodd 20 mlynedd i’w chwblhau. Mae gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru gyfres helaeth o ddarluniau gwreiddiol y gyfrol mewn pensil.

Printiau o’r gyfrol hon gan Neale sydd ar gael yng nghasgliad Tirlun Cymru. Mae’r printiau'n cynnwys darluniau o bob sir yng Nghymru, gan ganolbwyntio yn arbennig ar ddarluniau o gartrefi teuluoedd bonedd y wlad e.e. Gogerddan a Middelton Hall. Ceir printiau hefyd o dirwedd Cymru, sy'n pwysleisio cynifer o arlunwyr o safon uchel oedd yn ymweld â Chymru yn ystod y cyfnod hwn.

William Henry Bartlett 1809 – 1854

Addysgwyd Bartlett fel pensaer, ac o’r herwydd daeth yn arlunydd dawnus. Arlunio oedd ei gariad cyntaf, ac mi deithiodd y byd i’r perwyl hwn.

Cyrhaeddodd America a Chanada er mwyn peintio tirlun gogoneddus y ddwy wlad. Teithiodd mor bell â gwledydd Asia, ond yn anffodus dim ond dau o’i beintiadau a arddangoswyd yn Llundain.

Teithiodd yn helaeth yng Nghymru gan greu darluniau o safon, yn arbennig ei astudiaethau o Bont Menai. Ceir nifer o ddarluniau, yn y casgliad, o drefi a phentrefi, yn arbennig darluniau morwrol o ardal Biwmares a sir Gaernarfon.

Sir Richard Colt Hoare 1758 – 1838

Hynafiaethydd ac archeolegydd oedd Sir Richard Colt Hoare. Yn sgil ei ddiddordeb mewn archeoleg, teithiodd Hoare o amgylch gweldydd Ewrop ar ddiwedd y 18fed ganrif. Yn ystod y cyfnod hwn dysgodd y grefft o arlunio a bu'n ymwelydd cyson â Chymru.

Tra yng Nghymru daeth yn hoff iawn o’r wlad ac o’r bobl, gan fagu diddordeb yn niwylliant a gwareiddiad Cymreig. Cyfieithodd waith Gerallt Gymro, Itineraium Cambriae, o’r Lladin i’r Saesneg. Bu hefyd yn astudio tirwedd rhamantus Cymru mewn paent ac inc, gan gyhoeddi ei ddarluniau ym 1801, yng nghyfrol enwog William Cox, Historical tour in Monmouthshire.

Julius Caesar Ibbetson 1759 – 1817

Cychwynnodd Ibbetson weithio fel artist yn Llundain ym 1777. Yma cafodd y fraint o arddangos peth o'i waith yn y 'Royal Academy’ yn ystod 1785. Teithiodd yn helaeth o amgylch y byd gan gynhyrchu darnau o waith o safon uchel.

Ym 1789, ymwelodd â Chymru drwy nawdd John Stuart, 3ydd Iarll Bute lle bu'n astudio tirwedd bro Morgannwg. Arhosodd am ran helaeth o'r flwyddyn yng nghastell Caerdydd, gan ddefnyddio'r castell fel hafan wrth deithio de Cymru.

Daeth yn ôl i Gymru eto ym 1792, gan deithio gyda’i gyfeillion, John ‘Warwick’ Smith a Robert Fulke Greville. Daeth i garu tirwedd Cymru, gan greu astudiaethau medrus o ardal Aberglaslyn yn arbennig.

Teithiodd Cymru benbaladr, ond death yn ôl dro ar ôl tro i ardal Aberglaslyn er mwyn peintio’r ardal brydferth hon. Ar ôl iddo ddychwelyd i Loegr, cyhoeddodd y gyfrol, A Picturesque Guide, 1793, oedd yn cynnwys ei astudiaethau o dirwedd Cymru mewn inc .