John Cambrian Rowland, 'Bell ringer of Caernarvon in costume of trade'

 

Dyma drysor unigryw o'n casgliadau. Mae’r arlunydd artisan John Cambrian Rowland yn darlunio clochydd Caernarfon mewn gwisg draddodiadol Gymreig. Mae'r gwaith yn ddiddorol o safbwynt cenedlaethol yn ogystal ag o safbwynt celf hanesyddol.

Ganwyd John Cambrian Rowland ym mhentref bychan Lledrod, Ceredigion yng nghanolbarth gorllewin Cymru ym 1819, a sefydlodd ei hun fel yr artist proffesiynol cyntaf yn nhref Aberystwyth yn ddiweddarach. Derbyniai nawdd yn aml oddi wrth y mân uchelwyr lleol a thybir iddo astudio yn Ysgol Gelf Kensington. Teithiodd o amgylch Ceredigion, Sir Benfro, Sir Gaerfyrddin a Sir Faesyfed i wneud ei waith. Fel y gellir gweld o’r darlun hwn, peintiai mewn arddull syml, fflat a oedd yn nodweddiadol o waith arlunwyr artisan y cyfnod. Pylodd y diddordeb yn y math hwn o arddull pan ddarganfuwyd ffotograffiaeth ym 1839 gan fod y noddwyr dosbarth canol yn cefnu arnynt, a stiwdios ffotograffiaeth yn ymddangos ar bob stryd fawr yng Nghymru. O ganlyniad gwnaeth llawer o’r arlunwyr artisan fel William Roos, ddioddef tlodi mawr. Roedd Rowland yn unigryw gan iddo lwyddo i esblygu gyda'r oes ac erbyn diwedd yr 1840au roedd wedi newid ei arddull yn ddramatig. Roedd Rowland yn wydn ac roedd ganddo ben busnes.

Cafodd ei ysbrydoli gan Augusta Hall (Arglwyddes Llanofer), aeres a noddwraig y celfyddydau Cymreig. Hall, mewn ffordd a ddyfeisiodd y wisg genedlaethol Gymreig. Enillodd wobr yn Eisteddfod Frenhinol Caerdydd ym 1834 am draethawd a oedd yn pwysleisio pwysigrwydd yr iaith Gymraeg a gwisgoedd cenedlaethol Cymru. Mewn gwirionedd, yr hyn a wnaeth Arglwyddes Llanofer oedd troi gwisg gwlân trwm y dosbarth gweithiol ar draws Ewrop o'r cyfnod canoloesol i fod yn wisg genedlaethol Gymreig. Ysbrydolwyd Rowland ym 1848-1850 gan y ffasiwn newydd i greu nifer o brintiau o wisgoedd a drowyd yn ddiweddarach yn engrafiadau a gyhoeddwyd gan Edward Parry o Gaer. Bu'r rhain yn hynod boblogaidd ac roedden nhw'n gwerthu'n dda. Fel y dywed yr hanesydd celf, Paul Joyner 'Er bod y cyfansoddiadau’n gymwys, mae’r anatomeg gan amlaf yn wallus.’ Argraffwyd y lluniau weithiau hefyd ar addurniadau 'kitsch' a'u gwerthu mor bell â'r Alban.

Erbyn yr 1850au roedd Rowland wedi symud i fyw i Gaernarfon, gan drosglwyddo’r cymeriadau Cymreig mewn gwisg draddodiadol yn ei waith o Geredigion i dirwedd Eryri, a wnaeth unwaith eto brofi'n hynod boblogaidd. Gellir gweld y paentiad yma o glochydd Caernarfon yn yr un golau. Creodd Rowland ddarlun ag iddo apêl genedlaethol, clochydd yn ei wisg draddodiadol yn sefyll o flaen cefndir ysblennydd Castell Caernarfon, a thybiwn iddo’n ddiweddarach gael ei droi’n engrafiad i’w werthu’n ehangach i'r cyhoedd fel ei weithiau cynharach.