Europeana 280

Europeana 280 yw'r fenter ar y cyd rhwng Europeana, sef platfform digidol treftadaeth ddiwylliannol Ewrop, a'r Comisiwn Ewropeaidd lle bu 28 o Weinidogion Diwylliant Ewropeaidd yn cydweithio gyda'u sefydliadau diwylliannol cenedlaethol i ddewis o leiaf 10 darlun sy'n cynrychioli cyfraniad eu gwlad i hanes celf Ewrop.  Y bwriad yw dathlu’r amrywiaeth odidog o gelf sy'n adrodd stori unigryw am dreftadaeth celf Ewrop a sut mae wedi esblygu dros amser ac i ddangos i bobl sut mae eu gwlad yn rhan o’r dreftadaeth gelfyddydol honno.

Mae Gweinidog Diwylliant Cymru wedi cydweithio gyda Llyfrgell Genedlaethol Cymru i ddewis darluniau o bwys cenedlaethol. Mae'r gweithiau a ddewiswyd yn portreadu cyfoeth hanes gweledol Cymru ac yn pwysleisio bod Cymru'n ymfalchïo yn ei thraddodiad artistig gwych. Rydym wedi cynnwys tirluniau, portreadau a gwaith genre. Mae'r gwaith yn amrywio o bersbectif ymwelwyr i Gymru o'r 18fed a’r 19eg ganrif, gwaith arlunydd-grefftwr brodorol o'r 19eg ganrif, portreadau o'r 18fed a'r 19eg ganrif i weithiau gan arlunwyr cyfoes Cymreig.

Dyma ein detholiad o baentiadau:

Tirluniau

Yr hyn sy'n ganolog i hanes celf Cymru, yn naturiol, yw ei thirwedd godidog. Daeth Cymru yn gyrchfan ffasiynol i arlunwyr yn ystod ail ran y 18fed ganrif. Ni allai pobl deithio i Ewrop bellach oherwydd Rhyfeloedd Napoleon (yn arbennig ar gyfer y 'Daith Fawr'), ac felly trodd yr arlunwyr eu sylw at Brydain. Roedd Cymru gyda’i thirwedd fynyddig lawn cestyll, ei hiaith unigryw a’i mytholeg yn denu arlunwyr o bob rhan o Brydain. Dadleua’r hanesydd celf Peter Lord yn ei waith Gwenllian: '... roedd y deallusion Saesneg y gweld Cymru fel lle rhyfedd a hynafol, ac roedd arferion, gwisg ac iaith y bobl yn perthyn i oes arall, ystyrid y rhinweddai hyn yn ddeniadol.'

Daeth Cymru yn boblogaidd iawn gydag arlunwyr yn dilyn gweithiau fel tirluniau Richard Wilson (1712/13-1782) a Tours in Wales Thomas Pennant (1726-1798). Yn ein detholiad o weithiau ar gyfer Europeana 280 felly, rydym ni wedi cynnwys esiamplau o sut mae artistiaid y cyfnod yn gweld Cymru wrth iddynt chwilio am y pictiwrésg. Mae'r gweithiau’n cynnwys 'Castell Dolbadarn' gan J.M.W. Turner o 1799-1800 a ‘An Overshot Mill in Wales’ gan James Ward o 1847. Rydym hefyd wedi cynnwys y tirlun ‘Farmers on Glyder Fach’ o ca.1980 gan Kyffin Williams, arlunydd Cymreig enwocaf diwedd yr 20fed ganrif. Mae'r tair enghraifft yn hanfodol i ddangos sut mae Cymru wedi esblygu'n gelfyddydol a bod y wlad erbyn hyn yn cael ei chofnodi a'i gwerthfawrogi gan ein artistiaid brodorol ein hunain yn ogystal â chan eraill.

Portreadau

Casgliad portreadau Llyfrgell Genedlaethol Cymru yw'r casgliad mwyaf o bortreadau Cymreig yn y byd, yn cynnwys dros 65,000 o eitemau. Mae’n cynnwys pobl flaenllaw yn hanes Cymru, o'r cyfnod cynharaf hyd heddiw. Roedd gan Syr John Ballinger, Llyfrgellydd cyntaf Llyfrgell Genedlaethol Cymru, weledigaeth ar gyfer casgliad portreadau’r Llyfrgell, a dywedodd y dylai'r Llyfrgell gasglu 'portreadau o ddynion a merched, nid enwogion yn unig, ond pobl o bob hil a chymeriadau diddorol.'Mae’r portreadau a ddewiswyd i fod yn rhan o Europeana 280 yn cynnig blas o’r portreadau amrywiol sydd gennym yn ein casgliad, o’r portread o Catherine Jones, Colomendy, c. 1740, gan yr arlunydd Cymreig Richard Wilson i'r portread o’r chwaraewr rygbi cenedlaethol Shane Williams gan David Griffiths o 2011.

Gweithiau celf brodorol

Mae ‘The Bellringer of Caernarvon in Costume of Trade’ gan John Cambrian Rowland yn enghraifft wych o arlunydd crefftus cynhenid Cymreig a oedd yn gweithio yng Nghymru ddiwedd y 19eg ganrif. Mae ei ddarlun o ferch mewn gwisg genedlaethol Gymreig draddodiadol hefyd yn rhan annatod o'n dealltwriaeth o sut y datblygodd ein hymdeimlad o 'Gymreictod' yn y 19eg ganrif. Mae maes hanes celf Cymreig yn esblygu’n gyson, yn bennaf oherwydd gwaith haneswyr celf fel Peter Lord a Dr. Paul Joyner sydd wedi deall y rôl hanfodol a chwaraewyd gan arlunwyr gwlad o Gymru yn ystod y 18fed a'r 19eg ganrif i’r canon o hanes celf Cymreig. Rydym yn gobeithio, trwy gynnwys gwaith John Cambrian Rowland, ein bod yn tynnu sylw at yr angen i roi mwy o sylw i’r crefftwyr Cymreig a chwaraeodd ran annatod yn llunio hanes gweledol ein cenedl.

Gweithiau celf modern

Oherwydd eu bod yn artisiaid Cymreig o fri rhyngwladol rydym wedi cynnwys ‘Vase of Flowers’, gan Gwen John o ca.1910 a ‘Studio with Gloves’ gan Shani Rhys James o 1993. Mae gwaith pryfoclyd Shani Rhys James, ‘Studio With Gloves’, yn enghraifft wych o sut mae celf Cymreig yn datblygu drwy'r amser i ymgorffori ffyrdd newydd a deinamig o feddwl.

Bydd y 280 o weithiau celf yn ffurfio casgliad arbennig ar yr ‘Europeana Art History Channel’ newydd, sy'n dwyn ynghyd beintiadau mwyaf dylanwadol Ewrop, llawysgrifau goliwiedig a lithograffau, ac yn darparu gweithiau o ansawdd uchel i ymwelwyr a fydd yn tynnu sylw at sut mae Ewrop yn unedig trwy ddiwylliant. Bydd y casgliad yn chwiliadwy, ac yn cael ei integreiddio i blatfform Europeana, ochr yn ochr â deunydd perthnasol arall o lyfrgelloedd, archifau, amgueddfeydd, a chasgliadau clyweledol Ewrop. Bydd rhai darluniau dethol hefyd yn ymddangos mewn arddangosfa rithiol a fydd yn cael ei churadu’n arbennig yn 2016.