Cofnodion Ystad Wynnstay

Siarteri Ystrad Marchell

Ychydig o olion abaty Sistersaidd Ystrad Marchell, ger y Trallwng, sydd i'w gweld heddiw, eto y mae tystiolaeth y siarteri yn dangos fod hwn wedi bod yn dŷ crefyddol cyfoethog a phwysig ym Mhowys yr oesoedd canol. Yn dilyn ei sefydlu ddiwedd y ddeuddegfed ganrif gan Owain Cyfeiliog (m. 1197), tywysog de Powys, casglodd roddion lawer mewn tiroedd a breintiau eraill. Gwnaed y rhoddion hyn trwy gyfrwng siarteri, a cheir mewn nifer o archifdai siarteri gwreiddiol a chopïau o rai sydd erbyn hyn wedi'u colli. Y pwysicaf yw'r grŵp o ryw bymtheg ar hugain o eiddo Gwenwynwyn a noddwyr tywysogaidd eraill sydd ymhlith Archifau Ystad Wynnstay yn y Llyfrgell Genedlaethol.

Sefydlu'r abaty

Mae Register and Chronicle of the Abbey of Aberconway yn cofnodi i Owain ap Gruffudd (ca. 1110-1170), tywysog de Powys ac arglwydd Cyfeiliog, sefydlu abaty yn perthyn i'r Urdd Sistersaidd yn Ystrad Marchell yn 1170. Rhoddwyd safle iddynt ar lan orllewinol afon Hafren, rhyw bedwar cilomedr i'r gogledd-ddwyrain o'r Trallwng, rhan o gwmwd Ystrad Marchell neu, yn ei ffurf Ladin, Strata Marcella. Wedi ei sefydlu derbyniodd yr abaty roddion o diroedd a breintiau o fewn i Bowys ac yn swydd Amwythig, Lloegr.

Catalogio'r siarteri

Gwnaed yr ymgais go iawn gyntaf i ddefnyddio'r siarteri fel ffynhonnell ar gyfer ysgrifennu hanes yr abaty gan Morris Charles Jones mewn cyfres o erthyglau yng nghyfrolau cynnar y Montgomery Collections. Er eu bod yn werthfawr am dynnu ynghŷd am y tro cyntaf dystiolaeth ddogfennol ynglŷn â hanes yr abaty, y maent yn dlotach am nad oedd gan Jones fynediad at y siarteri gwreiddiol eu hunain. Dibynnai ar drawsgrifiadau hwyr o'r siarteri ynghŷd â chyfieithiadau ohonynt i'r Saesneg. Dim ond wedi i'r prif grŵp gael eu gosod ar adnau yn y Llyfrgell Genedlaethol yr oeddent ar gael i'w defnyddio gan ysgolheigion.

Lluniodd yr hanesydd a'r paleograffydd J. Conway Davies galendr o'r holl siarteri a oedd mewn nifer o archifdai gwahanol, ac fe'i cyhoeddodd i gydfynd â phapur yn ymwneud â chofnodion yr abaty a draddododd i'r Powysland Club. Yn anffodus ceir cymaint o gamgymeriadau yn ei drawsgrifiadau o enwau personol ac enwau lleoedd Cymraeg fel nad yw'r gwaith hanner mor werthfawr ag y gallai fod.

Grŵp Wynnstay

Goroesodd hanner cant namyn un o siarteri un ai wedi'u cyhoeddi gan yr abaty neu yn cyflwyno breintiau iddo o adeg ei sefydlu hyd at adeg ei ddiddymu yn 1536. Cedwir y grŵp mwyaf o ddigon ymhlith Archifau Ystad Wynnstay, sef pymtheg ar hugain ohonynt. Mae'r grŵp hwn yn cynnwys deuddeg siarter rhodd gan Gwenwynwyn, tywysog de Powys, un yr un gan Llywelyn ab Iorwerth, tywysog Gwynedd, a'i fab Gruffudd ap Llywelyn, un gan y brenin John, chwech gan aelodau o deulu llinach tywysogion Arwystli, un yr un gan John de Cherleton, ac Edward de Cherleton, arglwyddi Powys, a chwech gan unigolion eraill; tair dogfen yn ymwneud ag anghydfod ynglŷn â thir; a thair les gonfennol a roddwyd gan yr abad a'r cabidwl. Ceir un siarter ychwanegol ymhlith grŵp Wynnstay sef rhodd gan Owain ap Madog, tywysog gogledd Powys, o diroedd ym mhlwyf Llangwm yng nghwmwd Dinmael i abaty Glynegwestl. Fel archif yn cynnwys siarteri gwreiddiol gan dywysogion brodorol Cymreig, nid oes tebyg i grŵp Wynnstay; fel archif o siarteri yn perthyn i abaty yng Nghymru, dim ond archif abaty Margam, Morgannwg sydd yn rhagori arni.

Mae grŵp Wynnstay yn ymwneud yn bennaf â thiroedd yr abaty yng nghwmwd Cyfeiliog a chantref Arwystli a ddaeth yn eiddo i deulu Purcell, Nantcriba, Worthen yn dilyn y diddymu, a thiroedd ym maenor Caereinion Uwch Coed a ddaeth yn eiddo i deulu Vaughan, Llwydiarth. Yn eu tro fe ddaeth y tiroedd hyn, trwy briodas, yn eiddo i deulu Williams Wynn o Wynnstay. Fodd bynnag, ceir tair siarter ar ddeg nad ydynt yn ymwneud yn benodol â thiroedd a ddaeth i feddiant teulu Purcell a theulu Vaughan. Maent yn cynnwys tair rhodd o diroedd ym Mhenllyn ac Edeirnion, y daeth y rhan fwyaf ohonynt yn eiddo i Syr Rowland Hayward (m. 1593), arglwydd faer Llundain yn 1570, wedi'r diddymu; rhodd o hawliau pori yng nghwmwd Mochnant; rhodd o hawl i ddefnydd a budd o diroedd ger Hen Faldwyn; cadarnhad gan y brenin John ac Edward de Cherleton o roddion oedd wedi'u rhoi yn barod gan eraill, a chan John de Cherleton o hawl yr abad i gynnal llys tenantiaid, hawl a wrthodwyd i abad blaenorol gan dad-cu John de Cherleton; ac un archddyfarniad gan Ainan II, esgob Llanelwy. Ceir hefyd dau gadarnhad gan Gwenwynwyn o werthu dau ddarn o dir o'r enw Rhandir Gwion (Randir Gwiaun) yn nhrefgordd Ystradelfeddan ym mhlwyf y Trallwng. Adeg y diddymu, cafodd y tir hwn ei roi ar les gan yr abad a'r cwfaint i Nicholas Purcell, pobydd a bwrdeisiwr yn Amwythig, ond wedi'r diddymu daeth yn rhan o rodd o diroedd yr abaty gan y goron i Syr Rowland Hayward.

Archifdai eraill

Mae'r tair dogfen ar ddeg wreiddiol arall wedi'u cadw mewn gwahanol archifau ac archifdai. Ceir tair ohonynt yn Archifau Niwbwrch (Adran Rug) XD2/1111, 1112, 1113 yng Ngwasanaeth Archifau Gwynedd, Caernarfon, sef rhoddion i'r abaty gan Maredudd ap Hywel, Elisau ap Madog a Madog ap Gruffudd o diroedd ym Mhenllyn ac Edeirnion. Fwy na thebyg bod dwy siarter arall yn ymwneud â thiroedd un ai ym Mhenllyn neu Edeirnion. Mae un, BL Addl. Charter 10637, yn rhodd gan Madog Ap Gruffudd Maelor o dir o'r enw Ekal a'r llall, SRR322/2/18, sydd yn archifdy swydd Amwythig ymhlith Archifau Ystad teulu Corbet o Acton Reynald, yn rhodd i'r abaty gan Ieuaf Fychan ab Ieuaf ap Henri o diroedd o'r enw Grofft Adam a Cenau y Llymysten (Kenew elhemesten), ni wyddys eu lleoliad. Daeth y siarter a sefydlodd abaty Glynegwestl, sef rhodd gan Madog ap Gruffudd Maelor o diroedd i Ystrad Marchell i sefydlu cangen yng ngogledd Powys, i'r golwg yn 1979 ymhlith Archifau Ystad Wynnstay a roddwyd ar adnau yn Archifdy Sir Ddinbych, Rhuthun (DD/WY/4202). Ceir hefyd saith dogfen yn dyddio o ddiwedd y bymthegfed a dechrau'r unfed ganrif ar bymtheg sy'n cynnwys tri bond, BL Harley Charter 78 I 27, yr Archifdy Gwladol, E210/6238, ac Archifdy Morgannwg, CL/ Deeds II/ Montgomeryshire Box 3, a phedair les gonfennol, BL Addl. Charter 10654, LlGC Castle Hill 2468, Archifdy Morgannwg CL/ Deeds II/ Montgomeryshire Box 3 ac Antony House, Cernyw, CP/BD/13/102.

Darllen pellach

  • The charters of the Abbey of Ystrad Marchell. Edited by Graham C. G. Thomas. Aberystwyth : The National Library of Wales, 1997.
  • Morris C. Jones, 'The abbey of Ystrad Marchell (Strata Marcella) or Pola'. Yn Montgomery Collections, 4 (1871), tt. 1-34, tt. 293-322; 5 (1872), tt. 109-148; 6 (1873), tt. 347-386.
  • David H. Williams, 'The white monks in Powys II (Strata Marcella)'. Yn Cistercian Studies, 11 (1976), tt. 155-191.

Nid oes dim o olion Abaty Ystrad Marchell i'w gweld erbyn heddiw. Ond ar y ddalen hon ceir lluniau o rai o'r teils a ddarganfuwyd adeg archwiliad archaeloegol ddiwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Daw'r lluniau o Montgomery Collections, cyf. 25 (1891).

  • Siarter rhif 5

Cadarnhad o dir yng nghantref Penllyn gan Elisse ap Madoc i fynachod Abaty Ystrad Marchell.

  • Siarter rhif 11

Cadarnhad o rodd o diroedd gan Gwenwynwyn ab Owain Cyfeilio i abaty Ystrad Marchell.

  • Siarter rhif 14

Cadarnhad o rodd o diroedd gan Gwenwynwyn ab Owain Cyfeiliog i abaty Ystrad Marchell.

  • Siarter rhif 15

Cadarnhad o rodd o diroedd ac eiddo arall gan Elisau ap Madog i abaty Ystrad Marchell.

  • Siarter rhif 16

Cadarnhad o rodd ac o werthu tiroedd gan Cadwaladr ap Hywel i abaty Ystrad Marchell.

  • Siarter rhif 18

Cadarnhad o rodd o diroedd gan Hywel ap Hywel i abaty Ystrad Marchell.

  • Siarter rhif 21

Cadarnhad o werthu tiroedd gan Gwenwynwyn ap Owain Cyfeiliog i abaty Ystrad Marchell.

  • Siarter rhif 23

Cadarnhad o rodd o diroedd gan Gwenwynwyn ap Owain Cyfeiliog i abaty Ystrad Marchell.

  • Siarter rhif 25

Cadarnhad o rodd o diroedd gan Owain Cyfeiliog a Gwenwynwyn ap Owain Cyfeiliog i abaty Ystrad Marchell. Ceir cadarnhad o'r rhodd hefyd gan y Brenin John.

  • Siarter rhif 33

Cadarnhad rhodd o diroedd o'r enw Rhiw Canesid gan Gwenwynwyn ap Owain Cyfeiliog i abaty Ystrad Marchell.

  • Siarter rhif 34

Rhodd o hawl pori yng Nghyfeiliog gan Gwenwynwyn ab Owain Cyfeiliog i abaty Ystrad Marchell.

  • Siarter rhif 35

Cytundeb ynglŷn â physgota yng Nghyfeiliog rhwng Gwenwynwyn ab Owain Cyfeiliog ac abaty Ystrad Marchell.

  • Siarter rhif 41

Cadarnhad o rodd o hawl pori yn rhanbarth Mochnant gan Gwenwynwyn ab Owain Cyfeiliog i abaty Ystrad Marchell.

  • Siarter rhif 42

Cadarnhad o werthu hawliau ar diroedd gan Cadwallon ap Hywel i abaty Ystrad Marchell.

  • Siarter rhif 50

Cadarnhad o wrthiant tiroedd gan Gwenwynwyn ap Owain Cyfeiliog i abaty Ystrad Marchell.

  • Siarter rhif 51

Cadarnhad o rodd o diroedd gan Gwenwynwyn ab Owain Cyfeiliog i abaty Ystrad Marchell.

  • Siarter rhif 53

Cadarnhad o rodd o diroedd gan Gwenwynwyn ab Owain Cyfeiliog i abaty Ystrad Marchell.

  • Siarter rhif 54

Cadarnhad o werthu tiroedd gan Gruffudd Goch ap Gruffudd o Garno i abaty Ystrad Marchell.

  • Siarter rhif 55

Cadarnhad o rodd o diroedd gan Meilyr ap Nennau, Glasadain ap Nennau, Gruffudd ab Iorweth ap Cadwgon Gruffudd ab Elli? Cynig i abaty Ystrad Marchell ynghŷd â rhestr o amrywiol gonsesiynau i'r rhoddwyr gan yr abaty.

  • Siarter rhif 58

Cadarnhad gan Llywelyn ab Iorwerth o diroedd a roddwyd gan Madog ap Gruffudd Maelor i abaty Ystrad Marchell.

  • Siarter rhif 59

Cadarnhad o rodd o hawl i diroedd gan Dafydd ab Owain Brithdir i abaty Ystrad Marchell.

  • Siarter rhif 60

Cadarnhad o rodd o hawliau mewn tiroedd gan Madoc ab Owain Brithdir i abaty Ystrad Marchell.

  • Siarter rhif 62

Cadarnhad o rodd o hawliau mewn tiroedd ger Trefaldwyn i abaty Ystrad Marchell.

  • Siarter rhif 64

Dyfarniad Maredudd ap Rhobert yn yr anghydfod ynglŷn â Deupiu (Pen Clun) a Hirard.

  • Siarter rhif 65

Dyfarniad Maredudd ap Rhobert yn yr anghydfod ynglŷn â Deupiu (Pen Clun) a Hirard.

  • Siarter rhif 68

Cadarnhad gan Gruffudd ap Llywelyn o roddion o diroedd yng Nghyfeiliog gan Owain Cyfeiliog i abaty Ystrad Marchell.

  •  Siarter rhif 70

Cyflafareddiad a gyhoeddwyd gan Gauthier d'Ochles, abad Citeaux mewn achos o anghydfod ynglŷn â thir rhwng mynachod Ystrad Marchell a Chwmhir.

  • Siarter rhif 80

Cadarnhad o rodd o hawliau mewn tir o'r enw Caledffrwd gan Madog ap Caswallon i abaty Ystrad Marchell.

  • Siarter rhif 82

Cadarnhad o werthu tir Bahcwilim, a werthwyd gan Ralph de Lahee i Ieuaf ap Gruffudd ab Iorwerth, gan frawd mam Ieuaf, Madog ab Iorwerth a'i fab, a meibion Ieuaf i abaty Ystrad Marchell.

  • Siarter rhif 86

Archddyfarniad gan Ainan, esgob Llanelwy yn amddiffyn tir ac eiddo abaty Ystrad Marchell.

  • Siarter rhif 88

Cadarnhad gan John de Cherleton, arglwydd Powis, o hawl William, abad Ystrad Marchell, i gynnal llys tenantiaid.

  • Siarter rhif 89

Cadarnhad gan Edward de Cherleton, arglwydd Powis, o roddion a wnaed i abaty Ystrad Marchell gan ei gyndeidiau, Owain Cyfeiliog a Gwenwynwyn.

  • Siarter rhif 101

Cadarnhad o rodd o diroedd gan Owain ap Madog i fynachod abaty Glynegwestl.