Papurau Alun Lewis, Barddoniaeth (MS 1)

Roedd Alun Lewis yn fardd Eingl-Gymreig adnabyddus, a ystyriwyd gan lawer fel bardd Prydeinig gorau’r Ail Ryfel Byd.  Mae Papurau Alun Lewis yn gasgliad o lawysgrifau a phapurau a gyflwynwyd i’r Llyfrgell Genedlaethol gan ei weddw. Casgliad o bapurau’n ymwneud a’i gyfrol cyntaf o farddoniaeth Raiders' Dawn and other poems, a gyhoeddwyd ym 1942 yw MS1.

Alun Lewis, 1915-1944, bardd

Roedd Alun Lewis yn un o’r beirdd Saesneg mwyaf addawol ac adnabyddus yng nghyfnod yr Ail Ryfel Byd. Fe’i ganed ar 1 Gorffennaf 1915 yng Nghwmaman ger Aberdâr, yr hynaf o bedwar plentyn Thomas John Lewis, ysgolfeistr, a’i wraig Gwladys Elizabeth Evans, merch i weinidog. Datblygodd Alun gydwybod sosialaidd gadarn wrth dyfu fynnu’n fab i deulu dosbarth canol mewn cymuned lofaol ddirwasgedig.

Enillodd ysgoloriaethau i Ysgol Ramadeg y Bont-faen, a phrifysgolion Aberystwyth a Manceinion, lle bu’n ymhél a gwleidyddiaeth adain chwith, yn gweithio ar gylchgrawn y brifysgol a chyhoeddi ei gerddi a’i storïau cyntaf yn The Observer a’r Time and Tide ym 1937 - dyma a lansiodd ei yrfa lenyddol. Tra'n gweithio fel athro cyfarfu â Gweno Ellis, a’i phriodi ar 5 Gorffennaf 1941. Fe aeth yn gynyddol bryderus wrth i’r bygythiad o ryfel ddwysáu, a chyhoeddodd ei heddychiaeth mewn erthygl papur newydd, gan ysgrifennu at ffrind ‘The army, the bloody, silly, ridiculous, red-faced army … God save me from joining up.' Er hynny, ysgrifennodd yn ddiweddarach ' I shall probably join up … I've been unable to settle the moral issue satisfactorily … I have a deep sort of fatalist feeling that I'll go … But … I'm not going to kill. Be killed perhaps, instead.' (Selected Poetry, 18). Erbyn hyn yr oedd yn dioddef o iselder enbyd.

Ymunodd â’r Peirianwyr Brenhinol ar fympwy ym 1940, ond yr oedd yn casáu bywyd milwrol. Cymhwysodd fel is-lifftenant yng Nghyffinwyr De Cymru yn Hydref 1941, a syrthiodd unwaith eto i iselder a barhaodd tan haf 1942. Ym mis Hydref hwyliodd am yr India, gan adael ei wraig gyda rhai cerddi treiddgar am yr ymwahaniad. Ni welsant ei gilydd eto.  Yn yr India poenodd am dlodi’r werin, a dioddefodd bwl arall o iselder yn Nhachwedd 1943, ond erbyn mis Rhagfyr ysgrifennodd 'I'm beginning to be free … of the one destroying burden, despair'.

Yn Chwefror 1944 symudwyd ei uned i Burma, ac oriau cyn cychwyn ei batrôl cyntaf ar 5 Mawrth 1944, darganfuwyd ef wedi ei saethu yn ei ben, a bu farw o’i anafiadau. Er yr awgrymwyd iddo ladd ei hun, daeth yr ymchwiliad i’r penderfyniad iddo faglu a saethu ei hun drwy ddamwain. Roedd ei farwolaeth gynnar yn golled enfawr i lenyddiaeth Gymreig ac i’r byd llenyddol yn fyd-eang.

Papurau Alun Lewis

Mae’r llawysgrif yma’n rhan o gasgliad o lawysgrifau a phapurau a roddwyd i’r Llyfrgell Genedlaethol gan ei weddw ym Mehefin 1988. Derbyniwyd llyfrau ac eitemau eraill ar yr un pryd, yn ogystal ag ysgythriad ohono gan John Petts a ddefnyddiwyd ar glawr y cyhoeddiad cyntaf o’i gerddi, Raiders' Dawn and other poems ym 1942. Dyma’r unig gasgliad o’i gerddi a gyhoeddwyd yn ystod ei fywyd, casgliad a’i sefydlodd yn un o feirdd gorau ei genhedlaeth. Cafodd y gyfrol dderbyniad da gan y cyhoedd a’r adolygwyr, a bu’n rhaid ei hail-argraffu 6 gwaith. Ysgrifennai’n bennaf amdano’i hun o fewn ffiniau cul y rhyfel, ac ef oedd un o’r ychydig o feirdd mawr a gofnododd eu profiad o’r Ail Ryfel Byd ar gân. Cyfansoddwyd y mwyafrif o’r cerddi yn ystod ei gyfnod fel milwr yn y gwersylloedd hyfforddi, a thra’n byw ymysg pobl y dinasoedd a fomiwyd. Mae’r cerddi’n sôn am unigrwydd bywyd milwr, gydag ymwybyddiaeth realistig am farwolaeth, ac am gariad yng nghysgod angau gyda ‘gonestrwydd teimladwy milwr Prydeinig’. Maent yn ‘datgelu pryder tosturiol am ddioddefwyr gorthrwm a gormes: glowyr Cymreig, milwyr preifat, gwragedd a phlant.'

Mae’r llawysgrif yma’n un o 6 a grëwyd o dudalennau rhydd a ffeiliwyd yn LlGC. Mae’n cynnwys drafftiau mewn llawysgrifen a theipysgrif, copïau glân, adysgrifau, ac mewn rhai achosion fersiynau cynharach o gerddi a gyhoeddwyd yn Raiders' Dawn and other poems. Rhestrir y cerddi yn y drefn yr ymddangosant yn y gyfrol gyhoeddedig.

Llyfryddiaeth a darllen pellach

  • Alun Lewis, Raiders' dawn, Llundain, 1942;
  • Wales at war, Alun Lewis and other writers, study guide, Prifysgol Morgannwg, 1993;
  • Poetry Wales, cyf. 10, rhif. 3 (Rhifyn Arbennig Alun Lewis);
  • John Pikoulis, Alun Lewis, A Life, Seren, 1995;
  • Gweno Lewis (gol.), Alun Lewis, Letters to my wife, Seren, 1989;
  • J. Pikoulis (gol.), Alun Lewis: a miscellany of his writings, Poetry Wales Press, 1982;
  • Alun Lewis, Encyclopædia Brittanica Online [gwelwyd 3 Mawrth 2013];