Cyfeirnod: Papurau William George 6
David Lloyd George (1863-1945) yw'r gwladweinydd rhyngwladol mwyaf a gynhyrchodd Cymru erioed. Bu ei ddylanwad yn drwm ar wleidyddiaeth Cymru, y Deyrnas Gyfunol ac Ewrop. Bu'n Brif Weinidog o 1916 tan 1922.
Ganed Lloyd George ym Manceinion yn 1863 a'i fagu yn Llanystumdwy gan ei fam weddw. Ymsefydlodd fel cyfreithiwr yng Nghricieth a dechrau cymryd rhan amlwg ym mywyd gwleidyddol ei ardal. Yn 1890 fe'i hetholwyd yn aelod seneddol dros fwrdeistrefi Caernarfon. Chwaraeodd ran amlwg ym mudiad Cymru Fydd a oedd yn ymgyrchu am senedd i Gymru, ond wedi methiant hwnnw ymbellhaodd o faterion Cymreig gan ganolbwyntio ar bynciau radicalaidd ehangach.
Dringodd yr ysgol wleidyddol yn gyflym a bu'n Ganghellor y Trysorlys o 1908 hyd 1915 pryd y bu'n gyfrifol am nifer o fesurau pwysig i wella bywyd pobl gyffredin drwy sefydlu system bensiwn ac yswiriant iechyd cenedlaethol. Cofir am Lloyd George yn bennaf am y rhan a chwaraeodd yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf, 1914-1918. Fel Gweinidog Arfau (1915-16), Gweinidog Rhyfel (1916) a Phrif Weinidog daeth yn symbol o ymrwymiad Prydain i'r rhyfel.
Daw'r dyddiadur hwn o gasgliad papurau William George, brawd David Lloyd George, a brynwyd gan y Llyfrgell yn 1989. Mae'r archif bwysig hon yn cynnwys dros 3000 o lythyrau gan Lloyd George at ei frawd, yn ogystal â chyfres o 11 dyddiadur a gadwyd ganddo ym mlynyddoedd cynnar ei yrfa wleidyddol.
Mae Dyddiadur 1886 yn cynnwys cofnod o'i fywyd personol a'i yrfa wleidyddol. Mae'n disgrifio ei araith gyhoeddus gyntaf - ym Mlaenau Ffestiniog ar 12 Chwefror - ac yn disgrifio'i weithgareddau a'i uchelgeisiau gwleidyddol mewn cryn fanylder. Ceir hefyd nifer o gyfeiriadau diddorol at ei garwriaeth gyda Margaret Owen o Fynydd Ednyfed, Cricieth, a ddaeth yn wraig iddo maes o law.