Tra bod mynediad cyfyngedig i gasgliadau Llyfrgell Genedlaethol Cymru am gyfnod, mae llawer y gallwch ei wneud o adref trwy ddefnyddio ein casgliad gwych o adnoddau arlein sydd ar gael 24 awr y dydd, 7 niwrnod yr wythnos.
Dros yr 20 mlynedd diwethaf, rydym wedi bod yn brysur yn digido ein casgliad fel bod dros 5 miliwn o dudalennau digidol bellach ar gael ar y we.
Mae'n casgliadau arlein yn cynnwys:
Beth bynnag eich diddordeb, mae digon ar gael i chi eu mwynhau.
Dyma ychydig o ffyrdd y gallwn ni helpu:
Mae gwefan Lleoedd Cymru yn lle gwych i ddechrau.
Yma gallwch chwilio a phori dros 300,000 o gofnodion mapiau degwm Cymru. Gallwch weld y mapiau eu hunain a'r dogfennau cysylliedig a'u cymharu â mapiau mwy diweddar. Pwy oedd yn berchen ar eich cartref, sut y defnyddiwyd y tir yn y gorffennol - mae'r cyfan ar wefan Lleoedd Cymru.
Mae yna hefyd 1.2 miliwn o dudalennau ar wefan Cylchgronau Cymru sy'n perthyn i'r cyfnod rhwng 1735 a 2007 i’ch helpu gyda'ch ymchwil hanes lleol. Porwch drwy 450 o gyfnodolion gwahanol i weld beth allwch chi ei ddarganfod am eich ardal leol.
Ydych chi'n dysgu'r plant gartref am y tro cyntaf? Gallwn ni helpu!
Mae Gwasanaeth Addysg y Llyfrgell yn cynnig llawer o adnoddau addysgol am ddim. Mae'r adnoddau sydd ar gael ar dudalennau'r Gwasanaethau Addysg a Hwb, yn ymdrin ag ystod eang o bynciau, o Dywysogion Cymru i'r Ail Ryfel Byd, i gelf ac ysbrydoli creadigrwydd.
Ac yn ystod amser chwarae, beth am roi cynnig ar yr Her Adeiladu Digidol ac ail-greu Llyfrgell Genedlaethol Cymru gan ddefnyddio Minecraft, Lego neu unrhyw gêm floc arall! Bydd fideos, cynlluniau llawr, dimensiynau a lluniau, i gyd ar gael ar Hwb, yn eich helpu ar hyd y ffordd.
Oeddech chi'n gwybod y gallwch chi newid eich cefndir digidol wrth wneud galwadau fideo trwy apiau fel Zoom neu Teams? Beth am addasu eich cefndir digidol chi gydag un o 5 delwedd y gellir eu lawrlwytho am ddim o gasgliadau’r Llyfrgell?
Wedi cael digon ar ymchwil a dysgu? Mae gennym amrywiaeth o gasgliadau i'ch difyrru.
Gadewch i'n gweithiau celf hardd eich ysbrydoli! Chwiliwch ein Prif Gatalog neu bori bron i 2000 o weithiau celf o'n casgliadau trwy wefan ArtUK.
Dihangwch am ychydig gyda’r hen ffotograffau neu ffilmiau rydym yn eu cynnig am ddim arlein.
Chwiliwch ein casgliad ffotograffig trwy ein Prif Gatalog neu borwch drwy'r detholiad o gasgliadau ffotograffig yn ein Horiel Ddigidol.
Porwch drwy dros 700 o ffilmiau o'r Archif Sgrin a Sain sydd ar gael i'w gwylio am ddim trwy'r BFI Player.
Gallwch hyd yn oed fwynhau arddangosfeydd digidol o gysur eich cartref eich hun.
Dysgwch am fyd llenyddol yr artist Paul Peter Piech trwy ymweld â'r arddangosfa arlein sydd ar wefan Casgliad y Werin Cymru.
Os ydych chi'n mwynhau gwleidyddiaeth, dysgwch fwy am y cyn Brif Weinidog David Lloyd George neu bori cartwnau gwleidyddol Leslie Illingworth.
I'r rhai sy'n mwynhau llenyddiaeth, beth am bori trwy Arddangosfa Dylan Thomas neu ddysgu mwy am draddodiad llenyddol Cymru yn Arddangosfa Europeana: The Rise of Literacy.
Mae hefyd gwefan Y Bywgraffiadur Cymreig, ble gallwch ddarganfod dynion a menywod sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd cenedlaethol yng Nghymru neu ledled y byd.
Mae'r posibiliadau'n ddiddiwedd, ac rydym yn ychwanegu'n barhaus at ein hadnoddau a chasgliadau arlein.
Ewch i dudalen Adnoddau'r Llyfrgell i weld rhestr lawn o'r adnoddau sydd ar gael i chi gartref.