Rhowch eich barn
Llenwch ein holiadur byr fel y gallwn ddefnyddio'ch sylwadau i wella ein gwasanaethau.
Bydd Oriel Hengwrt, sy'n dal arddangosfa Trysorau, ar gau ar Ddydd Llun 9 Medi. Ymddiheurwn am unrhyw anghyfleustra.
Cafodd Emanuel Bowen ei eni yn Nhalyllychau, Sir Gaerfyrddin yn 1693 neu 1694. Yn 1709 aeth yn brentis i ysgythrwr o Lundain o'r enw Charles Price, a oedd yn wreiddiol o Sir Gaerfyrddin hefyd, ac a fu yn ei dro yn brentis i'r mapiwr enwog John Seller. Mae gan Bowen le amlwg ym masnach mapiau’r ddeunawfed ganrif y tu hwnt i'w waith ei hun gan fod ganddo sawl prentis, gan gynnwys y mapwyr enwog Thomas Kitchin, a ddaeth yn fab-yng-nghyfraith iddo, a Thomas Jefferys.
Y map o dde Cymru oedd y map mwyaf manwl o’r rhanbarth hyd hynny ac roedd yn llawer mwy manwl a chywir na’r holl fapiau sirol blaenorol o dde Cymru a oedd i gyd yn deillio o arolwg Saxton yn y pen draw. Mae copïau o argraffiad gwreiddiol 1729 y map yn eithaf prin.
Un nodwedd ddiddorol o'r map yw'r rhestr o danysgrifwyr sydd wedi’i hargraffu ar waelod y map. Roedd cynhyrchu map newydd, yn enwedig os byddai rhywun yn gwneud unrhyw waith arolygu, yn waith drud ac roedd yn eithaf cyffredin yn y cyfnod yma i fapwyr gasglu arian er mwyn ymgymryd â'r gwaith drwy ofyn i bobl danysgrifio am gopi o'r map cyn iddo gael ei greu. Fel rhan o'r tanysgrifiad, roedd yn gyffredin cynnwys tai neu ystadau boneddigion a oedd wedi tanysgrifio ar y mapiau. Yn yr achos hwn mae cod alffaniwmerig yn dilyn enw pob tanysgrifiwr sy'n rhoi cyfeiriad grid y man ble mae eu heiddo i'w weld ar y map.
Yn ddiweddarach bu'r map o dde Cymru yn sail i'r mapiau sirol o siroedd de Cymru a gafodd eu hysgythru gan Bowen a Kitchin ar gyfer y Large English Atlas ac a gyhoeddwyd gan John Tinney yn 1754. Ailgyhoeddwyd y map ei hun tua 1766. Mae copïau o'r ddau rifyn i'w gweld yma.
A New and accurate map of South Wales containing the counties of Pembroke, Glamorgan Cyfeirnod: Roller MAP A234
A New and accurate map of South Wales … Cyfeirnod: MAP 3420