Symud i'r prif gynnwys

Asiantaeth y llywodraeth sy'n gyfrifol am gynhyrchu mapiau ar gyfer Prydain Fawr yn ei chyfanrwydd yw’r Arolwg Ordnans (OS). Y mapiau a gynhyrchwyd gan yr OS yw prif gasgliad y Llyfrgell o fapiau printiedig modern.

Rhwng 1855 a 1894 mapiwyd tua 400 o drefi â phoblogaeth o fwy na 4000 o drigolion gan yr Arolwg Ordnans i raddfa o 1:500. Cynhyrchwyd y rhain ar adeg pan welwyd gwelliannau mewn cynllunio trefol a systemau glanweithdra yn dilyn Deddf Iechyd Cyhoeddus, 1848. Cafodd llawer o'r cynlluniau eu diwygio'n ddiweddarach rhwng 1898 a 1908, gyda rhai trefi'n cynnal eu harolygon eu hunain. Mae'r cynlluniau hyn yn cynnwys mwy o fanylion a gwybodaeth destunol na’r OS 1:2,500 (argraffiad 1af, 2il argraffiad ac argraffiadau dilynol o fapiau 25 modfedd:1 filltir), yn aml yn enwi adeiladau fel tafarndai, gan nodi’r defnydd a wnaed o eiddo masnachol a diwydiannol, ac weithiau’n nodi swyddogaethau ystafelloedd unigol a hyd yn oed yn dangos manylion fel polion lampau a thyllau archwilio.

Mae’r mapiau graddfa 1: 500 yn llawn gwybodaeth am dirweddau trefol ar droad y 19eg / 20fed ganrif a gallant fod yn arbennig o werthfawr o’u ddefnyddio ochr yn ochr â chofnodion cyfrifiad a chyfeirlyfrau masnachol.

Mae bylchau yn y casgliad o fapiau OS hŷn am nad oedd y Llyfrgell yn derbyn mapiau fel Adnau Cyfreithiol tan 1911. Mae'r Llyfrgell fodd bynnag wedi llwyddo i gasglu’r rhan fwyaf o'r deunydd OS sy'n cynnwys Cymru, gan gynnwys y cynlluniau o 28 o drefi Cymru, ynghyd â chymunedau Saesneg Penbedw, Croesoswallt ac Amwythig, yn ogystal â llawer iawn o fapiau o Loegr a'r Alban.

Merthyr Tudful yw'r unig dref yn ein casgliad a fapiwyd ar raddfa ychydig yn llai o 1: 528 (120 modfedd: 1 filltir). Mae'r raddfa’n rhagflaenu’r raddfa 1: 500 ac yn cael ei ddefnyddio ar gyfer 29 tref Prydeinig. Diwygiwyd y raddfa i 1: 500 yn fuan wedi hyn, er mwyn hwyluso metrigeiddio.

Cyhoeddwyd mynegeion graffig ar gyfer ein holl gynlluniau Cymreig a hefyd ar gyfer y rhan fwyaf o gymunedau trefol Prydeinig a fapiwyd ar raddfa fawr. Mae'r mynegeion yn cynnwys mapiau ar raddfa fach o bob ardal drefol; mae'r llinellau dalen neu'r grid 1:500 yn gymhorthion chwilio sy'n dangos cwmpas daearyddol manwl pob un map 1:500.

Ffynonellau pellach