Rhowch eich barn
Llenwch ein holiadur byr fel y gallwn ddefnyddio'ch sylwadau i wella ein gwasanaethau.
Cyfeirnod: Tredegar 277 139/8/14
Roedd Casnewydd yn ehangu’n gyflym, gydag ardal sylweddol o ddatblygiad arfaethedig wedi ei hamlinellu i’r de o'r dref, ac yn dangos un o ddociau caeëdig mawr cyntaf y dref ar safle presennol Dociau Alexandra. Amcangyfrifir i’r boblogaeth gynyddu rhyw 2,300 rhwng 1831 a 1836. Dangosir y fwrdeistref, y wardiau a’r plwyfi ac enwir Arglwydd Raglaw Sir Fynwy a’r ynadon lleol.