Rhowch eich barn
Llenwch ein holiadur byr fel y gallwn ddefnyddio'ch sylwadau i wella ein gwasanaethau.
Cyfeirnod: MAP5480
Mae’r map hwn yn cynnwys y Cei Llechi adnabyddus a oedd unwaith yn brysur iawn. Mae'r cynllun annodweddiadol a fewnosodwyd, gyda mynegai o’r dref (gwaelod ar y dde) "drawn in the Reign of Henry the Eighth, in the year 1530, & found in the possession of W.R. Jones, Caernarvon" mewn gwirionedd yn gynllun mewnosod gan John Speed a ymddangosodd gyntaf yn ei fap o Sir Gaernarfon o 1610. Yma, mae map gwreiddiol John Wood 1834 wedi cael ei ailweithio, ei ymestyn a’i gyhoeddi gan yr argraffydd H. Humphreys o Gaernarfon.