Symud i'r prif gynnwys

Cerddi serch

Cyfeirnod: Peniarth MS 76

Casgliad o gerddi serch gan wahanol feirdd, yn cynnwys Dafydd ap Gwilym, Bedo Bryn Llys, Robin Ddu a Tudur Aled, o ail chwarter y 16eg ganrif. Mae tt.163-4 a 217-8 yn fewnosodiadau diweddarach. Ceir rhestr fanwl o gynnwys y llawysgrif yn J. Gwenogvryn Evans, Report on Manuscripts in the Welsh Language, cyfrol I (Llundain, 1898-1905), 503-508.