Rhowch eich barn
Llenwch ein holiadur byr fel y gallwn ddefnyddio'ch sylwadau i wella ein gwasanaethau.
Gwaith yr hen feirdd Cymreig
Cyfeirnod: NLW MS 3049D
Casgliad o awdlau a chywyddau, yn cynnwys rhan sylweddol o gerddi a briodolir i Guto'r Glyn (tt. 151-300) a Dafydd ap Gwilym (tt. 355-379). Mae'r llawysgrif hefyd yn cynnwys copi o ‘Treatise on the Astrolabe’ Chaucer (tt. 87-100). Mae Gwenogvryn Evans o’r farn bod tt. 1-22, 335-406 a 410-33 wedi eu hysgrifennu mewn arddull hynafol ar ddechrau’r 17eg ganrif, tra bod tt. 23-85, 101-33 a 151-303 yn perthyn i chwarter olaf y 19eg ganrif. Mae rhannau eraill o'r llawysgrif yn ychwanegiadau diweddarach, heblaw am y dudalen felwm (tt. 305-6). Mae'r llawysgrif yn dwyn yr enwau John Rogers (t. 3), Thomas Owen (t. 236), Thomas Edwards ‘of the parish of yfion Llanrwst' (t. 307), Robert Williams (tt. 462, 509), a John Davies (t. 508).
Ceir rhestr fanwl o gynnwys y llawysgrif yn J. Gwenogvryn Evans, Report on Manuscripts in the Welsh Language, Cyf. I (Llundain, 1898-1905), tt. 168-179.