Rhowch eich barn
Llenwch ein holiadur byr fel y gallwn ddefnyddio'ch sylwadau i wella ein gwasanaethau.
Bydd Oriel Hengwrt, sy'n dal arddangosfa Trysorau, ar gau ar Ddydd Llun 9 Medi. Ymddiheurwn am unrhyw anghyfleustra.
Poetry by Dafydd ap Gwilym
Cyfeirnod: Llanstephan MS 6A
Llawysgrif sy'n cynnwys barddoniaeth gan Dafydd ap Gwilym, Tudur Aled, Iolo Goch a beirdd eraill yn bennaf o ail hanner y 15fed ganrif. Ar t.247 ysgrifennodd Huw Cae Llwyd: 'oydran jesy n dyrnasol / py ragor pymp ar higain / pymthec cant rifant y rain', sy’n dyddio'r llawysgrif o’r braidd yn gynharach na 1525. Mae arddull yr ysgrifennu’n awgrymu cyfnod cynharach, ac mae orgraff yr ysgrifennu - er enghraifft, 'Kaid' i odli gyda 'eneid' (gw. t.73) - yn perthyn i'r ail hanner, os nad chwarter olaf y 15fed ganrif (cymharer Llanstephan MS 7 a Peniarth MS 70). Ceir rhestr fanwl o gynnwys y llawysgrif yn J. Gwenogvryn Evans, Report on Manuscripts in the Welsh Language, Cyf. II, Rhan II (Llundain, 1903), tt. 428-433.