Rhowch eich barn
Llenwch ein holiadur byr fel y gallwn ddefnyddio'ch sylwadau i wella ein gwasanaethau.
Bydd Oriel Hengwrt, sy'n dal arddangosfa Trysorau, ar gau ar Ddydd Llun 9 Medi. Ymddiheurwn am unrhyw anghyfleustra.
The Red Book of Talgarth
Cyfeirnod: Llanstephan MS 27C
Ymddengys bod y llawysgrif hon yn yr un llaw â dogn mawr o Lyfr Coch Hergest a Peniarth MS 32. Mae’r cynnwys, gydag ychydig eithriadau, yn amlwg wedi eu cymryd o Jesus College MS 2 a Peniarth MS 5. Mae tt.i-vi yn perthyn i'r 15fed ganrif ac yn cynnwys achau (t.i); trioedd (t.ii); a barddoniaeth gan Dafydd ap Gwilym a Ieuan Dew Brydydd (t.iv-vi). Mae’r ugain ffolio sydd ar goll rhwng y ff. 20b a 21 bellach yn rhan o Peniarth MS 12, tt. 77-116. Mae nifer o’r tudalennau eraill yn cyfateb i dudalennau yn Llyvyr Agkyr Llandewivrevi, Peniarth MS 32, Peniarth MS 5, Peniarth MS 12, Peniarth MS 3, a Peniarth MS 14. Mae diwedd y llawysgrif ar goll. Rhwymwyd llythyr a ddyddiwyd yn Nhalgarth ar 19 Medi 1719 at 'the Rev. Moses Williams att Dyfynnog in Breconshire' i ddiwedd y llawysgrif.
Ceir llofnod John Powell ar t.v (gw. hefyd Peniarth MSS 41 a 45), a’r arysgrifiad 'Liber Moses Williams ex dono J. Powell de Talgarth 1719' ar f.1.
Ceir rhestr fanwl o gynnwys y llawysgrif yn J. Gwenogvryn Evans, Report on Manuscripts in the Welsh Language, Cyf. II, Rhan II (Llundain, 1903), tt. 455-462.