Rhowch eich barn
Llenwch ein holiadur byr fel y gallwn ddefnyddio'ch sylwadau i wella ein gwasanaethau.
The Book of Jaspar Griffith
Cyfeirnod: Llanstephan MS 120E
Mae 'llyfr Jaspar Griffith', yn cynnwys cerddi gan Dafydd ap Gwilym, Rhys Fardd, Iolo Goch, Taliesin, Dafydd Llwyd ap Llywelyn ap Gruffudd [Dafydd Llwyd, Mathafarn] ac eraill. Roedd llawysgrifau Peniarth MS 1 a Peniarth MS 53 ar un adeg ym meddiant Jaspar Griffith ac mae rhannau helaeth ohonynt wedi eu copïo i’r llawysgrif hon. Mae arddull y llawysgrifen yn debyg i lawysgrifen Griffith a welir yn yr ymylnodau i lawysgrifau Peniarth 1 a 53, felly tybir bod y llawysgrif hon hefyd yn ei law ef.
Ceir rhestr fanwl o gynnwys y llawysgrif yn J. Gwenogvryn Evans, Report on Manuscripts in the Welsh Language, Cyf. II, Rhan II (Llundain, 1903), tt. 603-609.