Symud i'r prif gynnwys

Cyfeirnod: Llsgr 7255E

Pwy oedd William Casnodyn Rhys a Mihangel ap Iwan?

Ganwyd William Casnodyn Rhys (1851-1943) yn Nhai Bach, Port Talbot ar y 10fed o Fedi 1851. Hyfforddod fel gweinidog yng Ngholeg y Bedyddwyr, Pont-y-pŵl a dechreuodd weinidogaethu yng nghapel Bedyddwyr Pennar, Doc Penfro yn 1876. Tua diwedd 1878 hwyliodd gyda'i wraig a’i ferch ifanc i Batagonia i fod yn weinidog Fron Deg, y capel newydd a adeiladwyd yn Chubut. Gwnaeth ei fywoliaeth yn ffermio’r tir a roddwyd iddo gan y llywodraeth, a phregethu bob dydd Sul yn eglwys y Bedyddwyr. Rhoddodd wasanaeth gwerthfawr i'r gymuned gyfan a bu’n Ysgrifennydd a Thrysorydd Cyngor y Gaiman. Dychwelodd i Brydain yn 1893 ar ôl 15 mlynedd ym Mhatagonia, a bu’n weinidog capel Bedyddwyr Stroud Green tan 1900. Bu'n weinidog ar eglwys y Bedyddwyr York Place, Abertawe o 1900 hyd ei ymddeoliad yn 1929, a bu farw yn Abertawe ym 1941 yn 89 oed.

Mihangel ap Iwan oedd mab ieuengaf Michael D. Jones. Graddiodd fel meddyg ym Mhrifysgol Caeredin ac ymfudodd i Batagonia, gan weithio fel meddyg yn Buenos Aires.


 

Llyfryddiaeth