Rhowch eich barn
Llenwch ein holiadur byr fel y gallwn ddefnyddio'ch sylwadau i wella ein gwasanaethau.
Bydd Oriel Hengwrt, sy'n dal arddangosfa Trysorau, ar gau ar Ddydd Llun 9 Medi. Ymddiheurwn am unrhyw anghyfleustra.
Cyfeirnod: NLW MS 7254D
Cyfrifon amrywiol a phwysig, 1861-1881, yn rhoi manylion am dderbynion a thaliadau Ysgrifennydd a Thrysorydd 'Y Wladychfa Gymreig', Patagonia.
Yn eu plith fe gofnodir cyfraniadau tuag at dalu am y daith a chynnal y fintai gyntaf, 1861-1865, prynu bwyd a deunyddiau eraill yn ystod y misoedd tyngedfennol cyntaf yn Chubut.
Yn eu plith mae mantolenni, 'Rhestr or arian a dalwyd gan wyr Lleyrpwll (Liverpool) tuag at dreuliau y Wladychfa Gymreig', 'Cyfrifon New Bay [Porth Madryn]', 'Cyfrif Chupat [Chubut]', 'Arwerthiant eiddo Elis Griffith yr hwn a voddodd yn y Gamwy Mawrth 17, 1876. Gwerthwyd ar ran y perthynasau dros [?] Lywydd yr Wladva gan R. J. Berwyn Arwerthwr ...', 'Papurau amodol y Fos Vawr', ayb.