Rhowch eich barn
Llenwch ein holiadur byr fel y gallwn ddefnyddio'ch sylwadau i wella ein gwasanaethau.
Bydd Oriel Hengwrt, sy'n dal arddangosfa Trysorau, ar gau ar Ddydd Llun 9 Medi. Ymddiheurwn am unrhyw anghyfleustra.
Cyfeirnod: NLW MS 21199D
Llythyrau, 1891-1894, oddi wrth David Richards yn y Wladfa a Buenos Aires at ei wraig yn Harlech, yn disgrifio ei daith a’i arhosiad yn y wladfa.
Yn ystod yr 1890au cynnar arweiniodd Edwin C. Roberts daith o’r wladfa Gymreig tua’r Andes i chwilio am aur, ac wedi pum mis dychwelont i Ddyffryn Camwy i rannu’r newyddion cyffrous o’u darganfyddiad o aur.
Chwaraeodd David Richards (g. 1860), asiant mwyngloddio o Harlech, Sir Feirionnydd ran flaenllaw yn yr ymgyrch i chwilio am aur. Honnodd ei fod wedi cael hawliau i gloddio yn y meysydd aur, a’i fod angen cyfalaf. Cynigiodd greu syndicâd, gyda chyfalaf cychwynnol o £10,000. Sefydlwyd y ‘Welsh Patagonian Gold Fields Syndicate Ltd’ ar 11 Tachwedd 1892 gyda David Lloyd George yn un o’r cyfarwyddwyr, a llawer o Gymry blaenllaw yn gyfranddalwyr.
Trosglwyddodd David Richards ei hawliau i'r cwmni, a darparodd dystysgrifau oddi wrth Lywodraeth yr Ariannin fel tystiolaeth o'r hawliau hynny. Yr oedd i oruchwylio gwaith o gloddio'r aur, ac i weithio i'r cwmni am 18 mis. Hwyliodd i Batagonia ym mis Mai 1891, dychwelodd i Brydain yn Awst 1892 ac a hwyliodd allan i Batagonia eto yn Ionawr 1893. Mae’r llawysgrif yma’n cynnwys casgliad o’r llythyrau a anfonodd adref at ei wraig yn Harlech, yn disgrifio ei daith a’i arhosiad yn y Wladfa.
Roedd yn fenter ansicr iawn ac, yn ôl rhai, roedd rhai wedi ymddiried gormod yn David Richards ac iddo fethu â sicrhau llwyddiant y fenter.