Rhowch eich barn
Llenwch ein holiadur byr fel y gallwn ddefnyddio'ch sylwadau i wella ein gwasanaethau.
Mae'n bosib na fyddwn ni'n gallu cyrchu ein holl ddeunydd archifol rhwng 26 - 29 Mawrth 2025. Os fyddwch chi'n ymweld yn ystod y cyfnod hwn, gofynwn i chi archebu unrhyw ddeunydd archifol cyn 26 Mawrth os gwelwch yn dda. Ymddiheurwn am unrhyw anghyfleustra.
Cyfeirnod: NLW MS 18177C
Llythyrau oddi wrth Joseph Seth Jones at ei deulu o Batagonia, ynysoedd y Falklands ac ar fwrdd yr Ivanhoe ar ei daith adref c. Ionawr 1866 - 29 Ebrill 1868. Mae’r llawysgrif yn cynnwys gwybodaeth gwerthfawr am ddyddiau cynnar y Wladfa.
Ganwyd Joseph Seth Jones (1845-1912) ym Mhenanner, Barrog, Llanfairtalhaiarn ym 1845. Ar ôl gadael yr ysgol yn 14 oed, cafodd swydd fel prentis gyda'r Visitor Office, argraffdy Robert Jones yn Abergele. Gadawodd y swydd chwe mis cyn gorffen ei brentisiaeth a ddechreuodd ar swydd lawn-amser fel argraffydd i Wasg Gee, Dinbych.
Tybir iddo gael ei ysbrydoli i ymfudo ar ôl gweld hysbyseb a ymddangosodd yn Yr Herald Cymraeg, yn gofyn am '12 o fechgyn ieuanc, cynefin a gwaith, ac o gymeriad da' a'r cynnig o 'drefn esmwyth i ad-dalu' costau'r daith. Mae NLW MS 18197B yn cynnwys casgliad o lythyrau wrth ei deulu’n ymbil arno i beidio ymfudo, ond doedd dim troi arno ac yn 20 oed, teithiodd i’r Wladfa fel rhan o’r fintai gyntaf ar fwrdd y Mimosa. Yn y Wladfa, cafodd ef a’i bartner Ifan Dafydd o Aberdâr ddarn o dir i’w ffermio, ond roedd Seth Jones â’i fryd ar deithio. Wedi cyfnod ym Mhorth Madryn derbyniodd swydd fel cogydd ar y Fairy, llong hela morloi ym mis Ebrill 1867, gan hwylio i Bort Stanley yn y Malfinas, lle gadawodd ei swydd a chael gwaith ar yr ynysoedd. Yna hwyliodd yn ôl i Gymru ym 1868 a derbyn swydd fel postmon yn Nhreffynnon. Bu farw yno ar 17 Ionawr 1912.
Cofir am Joseph Seth Jones am iddo ysgrifennu ddyddiadur yn ystod ei daith ar y Mimosa ac am ei fywyd yn Y Wladfa (NLW MS 18176B), ac am y llythyron yma a ysgrifennodd adref at eu deulu yng Nghymru yn ystod ei arhosiad byr.