Symud i'r prif gynnwys

Cyfeirnod: NLW MS 18197B

Ganwyd Joseph Seth Jones (1845-1012) ym Mhenanner, Barrog, Llanfairtalhaiarn ym 1845. Ar ôl gadael yr ysgol yn 14 oed, cafodd swydd fel prentis gyda'r Visitor Office, argraffdy Robert Jones yn Abergele. Gadawodd y swydd chwe mis cyn gorffen ei brentisiaeth a ddechreuodd ar swydd lawn-amser fel argraffydd i Wasg Gee, Dinbych.

Tybir iddo gael ei ysbrydoli i ymfudo ar ôl gweld hysbyseb a ymddangosodd yn Yr Herald Cymraeg, yn gofyn am '12 o fechgyn ieuanc, cynefin a gwaith, ac o gymeriad da' a'r cynnig o 'drefn esmwyth i ad-dalu' costau'r daith. Mae NLW MS 18197B yn cynnwys casgliad o lythyrau wrth ei deulu’n ymbil arno i beidio ymfudo, ond doedd dim troi arno ac yn 20 oed, teithiodd i’r Wladfa fel rhan o’r fintai gyntaf ar fwrdd y Mimosa. Yn y Wladfa, cafodd ef a’i bartner Ifan Dafydd o Aberdâr ddarn o dir i’w ffermio, ond roedd Seth Jones â’i fryd ar deithio. Wedi cyfnod ym Mhorth Madryn derbyniodd swydd fel cogydd ar y Fairy, llong hela morloi ym mis Ebrill 1867, gan hwylio i Bort Stanley yn y Malfinas, lle gadawodd ei swydd a chael gwaith ar yr ynysoedd. Yna hwyliodd yn ôl i Gymru ym 1868 a derbyn swydd fel postmon yn Nhreffynnon. Bu farw yno ar 17 Ionawr 1912.

Cofir am Joseph Seth Jones am iddo ysgrifennu ddyddiadur yn ystod ei daith ar y Mimosa ac am ei fywyd yn Y Wladfa, ac am y lythyron a ysgrifennodd adref at eu deulu yng Nghymru yn ystod ei arhosiad byr (NLW MS 18177C).


Llyfryddiaeth