Symud i'r prif gynnwys

Cyfeirnod: NLW MS 4616B

Mae’r papurau yn cynnwys rhestr o gyfranwyr yn Unol Daleithiau America, Cymry yn bennaf, am gyfranddaliadau yn y Cwmni Ymfudol, a llythyrau, 1871-1911, oddi wrth:

  • [R. D. Edwards] ('Derfel')
  • E. Herber Evans ('Herber')
  • H. Tobit Evans
  • Thomas Gee
  • William Grifth (Caergybi)
  • Walter D. Jeremy
  • D. Ll. Jones (Ruthun, ysgrifennydd y Cwmni Ymfudol)
  • George James Jones (Findlay, Ohio, UDA)
  • J. Spinther James ('Spinther')
  • Lewis Jones
  • Michael D. Jones
  • R. Gwesyn Jones (Utica, UDA)
  • Wm. S. Jones (Swyddfa Baner America, Scranton, UDA)
  • Job Miles (Aberystwyth)
  • Thomas Nicholas
  • Joseph Parry (Mus. Doc.)
  • Thomas Rees (Abertawe)
  • Daniel Rowlands (Coleg Normal, Bangor)
  • Edward Stephen ('Tanymarian')
  • John Thomas (Lerpwl)
  • Robert Thomas ('Ap Vychan')

Mae rhai llythyrau’n ymwneud â gwrthwynebiad y wasg yng Nghymru a’r Unol Daleithiau i’r Wladfa. Ceir hefyd dri llythyr cynnar o’r Wladfa, 1866.