Rhowch eich barn
Llenwch ein holiadur byr fel y gallwn ddefnyddio'ch sylwadau i wella ein gwasanaethau.
Cyfeirnod: NLW MS 18427C
Llythyrau at H. Tobit Evans, Llanarth, oddi wrth R. J. Berwyn, Llwyd ap Iwan, David Davies, Llandinam, D. S. Davies, Michael Davitt, Michael D. Jones ac Eluned Morgan, ynglŷn â'r Wladychfa Gymreig ym Mhatagonia, a thysteb i'r Parch. Michael D. Jones, 1895-1900.
Roedd Henry Tobit Evans (1844-1908) yn ysgolfeistr, newyddiadurwr ac awdur. Bu’n bennaeth ysgol Frutanaidd Llechryd am saith mlynedd ac yna’n newyddiadurwr a gwleidydd. Bu’n ohebydd i Kelt Llunain am flynyddoedd. Dysgodd ei hun i argraffu a sefydlodd wasg yn ei dŷ yn Llanarth, lle cyhoeddai Y Brython Cymreig o 1892-1902. Bu hefyd yn golygu’r Carmarthen Journal o 1898-1904. Ystyrid ef yn awdurdod ar enwau lleoedd Cymreig.