Rhowch eich barn
Llenwch ein holiadur byr fel y gallwn ddefnyddio'ch sylwadau i wella ein gwasanaethau.
Mae'n bosib na fyddwn ni'n gallu cyrchu ein holl ddeunydd archifol rhwng 26 - 29 Mawrth 2025. Os fyddwch chi'n ymweld yn ystod y cyfnod hwn, gofynwn i chi archebu unrhyw ddeunydd archifol cyn 26 Mawrth os gwelwch yn dda. Ymddiheurwn am unrhyw anghyfleustra.
Cyfeirnod: NLW MS 18181B
Copi gan R. Bryn Williams o lythyr maith oddi wrth Michael D. Jones, 1 Hydref 1877, at arweinwyr y Wladfa yn ymbilio arnynt i dalu rhywfaint o’u dyled iddo.
Yn y 1860au, cychwynnodd Michael D. Jones ac eraill a oedd yn anfodlon â'r amodau cymdeithasol adref ar fenter i sefydlu gwladfa Gymreig ym Mhatagonia, De America. Buddsoddodd yn ariannol yn y cynllun, gwnaeth golled fawr ac o ganlyniad bu’n rhaid iddo werthu ei gartref, Bodiwan yn y Bala, Meirionnydd.