Rhowch eich barn
Llenwch ein holiadur byr fel y gallwn ddefnyddio'ch sylwadau i wella ein gwasanaethau.
Cyfeirnod: NLW MS 19101E
Llyfr cofnodion y Parch. Tudur Evans yn cynnwys enwau aelodau ac yn cofnodi bedyddiadau yng nghapeli Bethel (Gaiman), Bethel (Cwm Hyfryd), Seion (Esquel), Ebenezer, Moriah a Bethel (Tir Halen), Bethlehem (Treorci), Seion (Bryn Gwyn), &c., 1915-1955.
Ganwyd Tudur Evans (1877-1959) yn y Gaiman ar y 12 Rhagfyr 1877, yn fab y Parch Caerenig Evans a’i wraig Hannah Harries. Roedd ei dad yn löwr hyd nes ei fod yn 26 mlwydd oed, pan aeth yn fyfyriwr yng Ngholeg Presbyteraidd Caerfyrddin, cyn cael swydd fel gweinidog yn Aberdâr. Symudodd i Batagonia gyda'i wraig a'i deulu ifanc yn 1874, ac o dan ei arweiniad y cafodd y gamlas gyntaf ei hadeiladu. Cofrestrodd ei fab Tudur fel myfyriwr yng Ngholeg Presbyteraidd Caerfyrddin, cyn symud ymlaen i astudio ymhellach yn yr ‘East London Missionary Training Institute’ yn Llundain. Cafodd ei ordeinio i weinidogaethu’r Wladfa yng Nghaerfyrddin ym mis Medi 1910. Ymsefydlodd yn nyffryn Chubut lle bu’n weinidog tan 1920, pan dderbyniodd wahoddiad i weinidogaethu yn yr Andes. Bu’n weinidog Trefelin ac Esquel o 1921-1933, cyn dychwelyd i Chubut lle bu’n gweinidogaethu tan iddo golli ei iechyd. Roedd yn fardd ac enillodd gadair Eisteddfod Trefelin yn 1928. Bu farw ar 1 Medi 1959 yn 81 oed.