Rhowch eich barn
Llenwch ein holiadur byr fel y gallwn ddefnyddio'ch sylwadau i wella ein gwasanaethau.
Cyfeirnod: NLW MS 20549E
Erthyglau, nodiadau, a phapurau W. Casnodyn Rhys, 1920au a 1930au am hanes Patagonia, Indiaid Chubut a chofiant Joshua Jones un o’r ymfudwyr cyntaf.
Ganwyd William Casnodyn Rhys (1851-1943) yn Nhai Bach, Port Talbot ar 10 Medi 1851. Hyfforddodd fel gweinidog yng Ngholeg y Bedyddwyr, Pont-y-pŵl a dechreuodd weinidogaethu yng nghapel Bedyddwyr Pennar, Doc Penfro, yn 1876. Tua diwedd 1878 hwyliodd gyda'i wraig a’i ferch ifanc i Batagonia i fod yn weinidog Fron Deg, y capel newydd a adeiladwyd yn Chubut. Gwnaeth ei fywoliaeth yn ffermio’r tir a roddwyd iddo gan y llywodraeth a phregethu bob dydd Sul yn eglwys y Bedyddwyr. Rhoddodd wasanaeth gwerthfawr i'r gymuned gyfan a bu’n Ysgrifennydd a Thrysorydd Cyngor y Gaiman. Dychwelodd i Brydain yn 1893 ar ôl 15 mlynedd ym Mhatagonia, a bu’n weinidog capel Bedyddwyr Stroud Green tan 1900. Bu'n weinidog ar eglwys y Bedyddwyr York Place, Abertawe o 1900 hyd ei ymddeoliad yn 1929 a bu farw yn Abertawe ym 1941 yn 89 oed.