Symud i'r prif gynnwys

Cyfeirnod: NLW MS 12198-12199A

Pwy oedd Lewis Jones?

Ganwyd Lewis Jones (1836-1904) yng Nghaernarfon ar 30 Ionawr 1836. Bu’n cyd-olygu’r Pwnsh Cymraeg yng Nghaergybi am gyfnod cyn symud i Lerpwl, lle daeth yn un o brif arweinwyr y Mudiad Gwladfaol. Anfonwyd ef a’r Capten Love Jones-Parry i archwilio Patagonia ym 1862 i weld a oedd yr ardal yn addas ar gyfer sefydlwyr Cymreig. Llwyddodd y ddau i arwyddo cytundeb gyda Dr Rawson, chynrychiolydd y llywodraeth yn Buenos Aires, yn sicrhau 25 cuadra (tua 100 erw) o dir i bob teulu. Dychwelodd ag adroddiad ffafriol a oedd wedi ei orliwio, er mwyn perswadio’r Cymry i fentro yno. Yr oedd y disgrifiadau blodeuog o'r crastir anial a digroeso yn galonogol ac fe lwyddwyd i berswadio 153 o Gymry i droi eu cefnau ar y caledi a’r gorthrwm yng Nghymru a mudo ar y Mimosa.

Mae’r dyddiaduron yma’n cofnodi ei ymweliad â Phatagonia ym 1862-3, ac yn gofnod pwysig o’r trafodaethau gyda swyddogion llywodraeth yr Ariannin a Chonswl Prydain. Maent hefyd yn cynnwys manylion o’r cyfarfodydd cyhoeddus lle bu Michael D. Jones yn annerch y Cymry i’w denu i fudo i Batagonia.

Fe aeth Lewis Jones allan gydag Edwin Cynrig Roberts i baratoi’r lle i’r fintai gyntaf ond fe wnaeth gweryla gyda’r ymfudwyr a oedd yn cwyno nad oedd y wlad yn addas a gadawodd am Buenos Aires, lle bu’n gweithio fel argraffydd am ddeunaw mis. Aeth yn ôl i Batagonia ym 1867 i berswadio’r ymfudwyr i aros. Cychwynnodd ddau bapur newydd, Ein Breiniad yn 1878 a’r Dravod yn 1891 a chyhoeddodd lyfr, Y Wladfa Gymrei , ym 1898. Bu’n rhaglaw dros lywodraeth yr Ariannin am gyfnod, gan ddadlau dros fuddiannau'r Cymry gyda llywodraeth yr Ariannin, ond hefyd cafodd ei garcharu am amddiffyn hawliau'r Cymry. Bu farw ym mis Tachwedd 1904.


Llyfryddiaeth

  • Erthygl Lewis Jones ar wefan Y Bywgraffiadur Cymreig, gwelwyd 16 Rhagfyr 2016; 
  • Erthygl Lewis Jones ar wefan Wicipedia, gwelwyd 16 Rhagfyr 2016;
  • Erthygl Lewis Jones ar wefan Cymruhanes, gwelwyd 16 Rhagfyr 2016;