Symud i'r prif gynnwys

Cyfeirnod: NLW MS 4617E

Yn yr 1860au, cychwynnodd Michael D. Jones, ac eraill a oedd yn anfodlon â’r amodau cymdeithasol adref, ar fenter i sefydlu gwladfa Gymreig ym Mhatagonia, De America.

Sefydlwyd y Cwmni Gwladychu Cymreig a Masnachu Cyffredinol, ac etholwyd Michael D Jones yn Gadeirydd. Buddsoddodd yn ariannol yn y fenter, ond aeth yn fethdalwr oherwydd ei ddyledion, a bu’n rhaid iddo werthu ei gartref, Bodiwan yn y Bala, Meirionnydd.


Amcanion y Cwmni Gwladychu Cymreig a Masnachu Cyffredinol Cyfyngedig

Lleolwyd y Cwmni Gwladychu Cymreig a Masnachu Cyffredinol Cyfyfngedig yn Stryd Record, Rhuthun, Sir Ddinbych, ac ymhlith ei amcanion roedd:

  • Llogi, prynu neu adeiladu cychod neu longau hwylio neu ager.
  • Cludo teithwyr neu  nwyddau i ac o’r Wladfa neu Wladfeydd Cymreig yn Nhiriogaeth Archentaidd Patagonia, De America, yn ogystal ag i ac o bob man arall a bennir yn achlysurol gan y Cyfarwyddwyr, am bris a thâl.
  • Sicrhau tir drwy bryniant neu hawl, yn y Wladfa neu Wladfeydd Cymreig neu rywle arall, ac i brynu yr holl nwyddau ac offer amaethyddol, ac i’w ail-werthu ar unrhyw amodau sydd yn fanteisiol i’r Cwmni.