Symud i'r prif gynnwys

Cyfeirnod: NLW MS 23812D

Cadwodd Thomas Jones ddyddiadur am flynyddoedd a'r rhain fu'r sail ar gyfer ei Atgofion, a luniwyd ganddo ar ôl iddo ddychwelyd o'r Eidal. Ar ddechrau'r gyfrol amlinellir hanes y teulu cyn cofnodi genedigaeth, plentyndod ac addysg gynnar yr arlunydd, ei benderfyniad i ddilyn gyrfa fel artist, ei brentisiaeth gyda Richard Wilson a'i fywyd fel gŵr ifanc yn Llundain. Adroddir yn fanwl hanes ei fywyd yn yr Eidal a'i daith adref, ond cofnod cryno iawn a geir o weddill ei fywyd.

Cwblhawyd yr Atgofion ym 1798, fel y dengys y nodyn gyda'i lofnod ar f. 220v, ond ychwanegodd y dyddiad 1803 y tu mewn i'r clawr blaen. Defnyddiodd nifer o lyfrau nodiadau o tua'r un faint, gan ysgrifennu'r drafft cyntaf ar y tudalennau ar y chwith, cyn dychwelyd yn nes ymlaen at y gwaith o gywiro ac ychwanegu deunydd. Dileodd eiriau, llinellau a hyd yn oed baragraffau ar y tro, gan nodi ychwanegiadau a chywiriadau ar y tudalen gyferbyn. Weithiau torrodd ddail ymaith gan adael bonyn tenau (e.e. ff. 88, 105-6), dro arall ychwanegodd ddail newydd (e.e. ff. 82-7, 88a). Ni chawn yr argraff mai sensro ei eiriau oedd ei fwriad eithr gwella'r arddull, ond mewn ambell i achos mi leddfodd rywfaint ar yr ymadrodd gwreiddiol. Cyflwyna'r awdur ei hun mewn dull agored, gwrtharwrol, yn enwedig wrth adrodd am droeon trwstan megis cael ei dwyllo. Yr unig bwnc y mae'n swil iawn i'w drafod yw ei berthynas â'i wraig, Maria Moncke, y cyfarfu â hi yn yr Eidal, ond unwaith iddo ei henwi dechreua gyfeirio ati hi'n cadw tŷ iddo ac at ei chwmnïaeth, ac yn y man clywn am y ddwy ferch a aned iddynt.

Er nad yw'n sôn yn fanwl am ei waith, mae'r arlunydd yn cyfeirio'n aml at y darluniau sydd ar y gweill ac am werthu rhai ohonynt. Clywn fel y'i siomwyd yn gyson wrth i wŷr bonheddig anghofio eu haddewidion iddo a chawn yr argraff fod Thomas Jones ychydig yn ynysig.

Dengys ei Atgofion ei fod yn ymwybodol iawn mai Cymro oedd. Perthynai i gylchoedd Cymry Llundain yn ei ieuenctid a hyd yn oed yn ei gyfnod yn yr Eidal ni fethai â dathlu dydd Gŵyl Ddewi. Roedd yn storïwr wrth reddf, ac mae ei Atgofion bywiog yn cyfleu cymeriad deniadol a diymhongar: nid arlunydd yn unig ydoedd ond llenor dawnus hefyd.