Rhowch eich barn
Llenwch ein holiadur byr fel y gallwn ddefnyddio'ch sylwadau i wella ein gwasanaethau.
Fel llawer o artistiaid, gadawodd Thomas Jones ddeunydd ysgrifenedig yn ogystal â darluniau. Er nad oes archif sylweddol o'i eiddo, cadwyd tair llawysgrif bwysig, sef cyfrol o'i Atgofion a dau lyfr cownt. Trwy gymynrodd hael y ddiweddar Mrs Jane Evan-Thomas y daeth yr Atgofion ac un llyfr cownt i'r Llyfrgell Genedlaethol yng Ngorffennaf 2000. Diogelwyd deunydd perthynol mewn casgliadau eraill yn y Llyfrgell, yn enwedig yn archifau ystad Pencerrig, gan gynnwys llawysgrif y cyfeiria Jones ati yn ei Atgofion (ff. 23-4), sydd yn adrodd mewn dull bwrlésg hanes taith gan yr arlunydd i Calais ym 1767.
Mae'r ddwy lawysgrif a gyflwynir yma yn gloddfa wych o wybodaeth am fywyd yr arlunydd, gan amlaf yn ei arddull ddihafal, atyniadol ei hun. Ceir hanes y cyfnod a dreuliodd yn yr Eidal rhwng 1776 a 1783 yn yr Atgofion, ac hefyd wybodaeth am ei fywyd ar ôl iddo ddychwelyd i Bencerrig lle bu'n byw fel sgweiar yr ardal tan ei farwolaeth. Gwybodaeth am y blynyddoedd 1788 hyd 1797 a geir yn yr ail lyfr cownt.