Symud i'r prif gynnwys

Cyfeirnod: Llanstephan MS 84B

Llawysgrifau Cernyweg Llyfrgell Genedlaethol Cymru

Nid Llanstephan 84 yw'r unig lawysgrif Gernyweg a geir yng nghasgliadau'r Llyfrgell Genedlaethol. Ceir hefyd yma 2 o lawysgrifau pwysica'r iaith, sef 'Beunans Meriasek', drama mewn Cernyweg Canol a ysgrifennwyd ym 1504, wedi ei seilio ar fywyd, Meriadoc y sant o Lydaw (llsgr. Peniarth 105) a 'Beunans Ke', copi o ail hanner yr 16eg ganrif o ddrama wedi ei seilio ar fuchedd Ke Sant (llsgr. NLW 23849D).

Yn y Llyfrgell hefyd ceir nifer o eirfaoedd Cernyweg. Mae’r rhain yn cynnwys copi yn llaw Moses Williams (1686-1742) o eirfa Gernyweg (llsgr. Llanstephan 85) a phroflenni Lexicon Cornu-Britannicum (1865) y Parch Robert Williams (llsgr. Cwrtmawr 1138).

Wrth sôn am lawysgrifau Cernyweg ni ellir hepgor enw'r ysgolhaig Edward Lhuyd (1660 – 1709). Heb ei ymroddiad a'i astudiaethau ef o'r Gernyweg ni fyddai nifer o lawysgrifau wedi goroesi hyd heddiw.

Mae'r rhain yn cynnwys 2 gopi o'r 'Ordinalia' a fu gynt yn eiddo i Lhuyd (llsgrau. Llanstephan 97 a Peniarth 428), yn ogystal â'r Geirlyer Kyrnẁeig (llsgr. Llanstephan 84).

Geirlyer Kyrnẁeig

Ym 1702 treuliodd Lhuyd oddeutu 4 mis yng Nghernyw yn teithio o blwyf i blwyf er mwyn casglu deunydd ar gyfer y Geirlyer Kyrnẁeig. Yn ystod yr amser hwn bu'n siarad â brodorion yr ardal gan gofnodi eu geirfaoedd mewn nodlyfr. Dyna yn ei hanfod yw cynnwys y Geirlyer Kyrnẁeig, sef geirfa Gernyweg gydag ystyron cyfatebol yn y Saesneg.

Nodlyfr bychan o ran maint yw'r Geirlyer Kyrnẁeig yn 172 o dudalennau, gyda'r eirfa yn llenwi 162 ohonynt. Cafodd ei ysgrifennu yn llaw Lhuyd mewn inc du a choch. Ceir nifer fawr o gywiriadau ynddo gydag amryw o eiriau wedi'u croesi allan.

Ar ddiwedd y gyfrol, ar dudalen 164, ychwanegwyd marwnad yn yr iaith Gernyweg i'r Brenin William III a fu farw ym 1702, ynghyd â chyfieithiad i'r Lladin.

Flynyddoedd wedi marwolaeth annhymig Lhuyd ym 1709, daeth y llawysgrif yn rhan o gasgliad personol Syr John Williams, prif gymwynaswr y Llyfrgell Genedlaethol. Cyflwynodd y gyfrol ymhlith ei gasgliad i'r Llyfrgell ym 1909.

Erbyn heddiw ystyrir Lhuyd yn un o'r ysgolheigion mwyaf amryddawn a welodd Cymru erioed. Caiff ei barchu am yr holl waith ymchwil a wnaeth i gasglu gwybodaeth am yr ieithoedd Celtaidd a'u cyd-berthynas, a'i waith ar y Gernyweg yw un o'r astudiaethau prin hynny a geir o'r iaith tra'r oedd hi'n fyw.


Darllen Pellach

  • W Ll Davies, Cornish Manuscripts in the National Library of Wales (Aberystwyth, 1939)
  • R T Gunther, Life and letters of Edward Lhwyd (Oxford, 1945)
  • F Emery, Edward Lhuyd F. R. S. 1660 – 1709 (Caerdydd, 1971)
  • Derek R Williams, Prying into every hole and corner; Edward Lhuyd in Cornwall in 1700 (Trewirgie, 1993)