Rhowch eich barn
Llenwch ein holiadur byr fel y gallwn ddefnyddio'ch sylwadau i wella ein gwasanaethau.
Bydd Oriel Hengwrt, sy'n dal arddangosfa Trysorau, ar gau ar Ddydd Llun 9 Medi. Ymddiheurwn am unrhyw anghyfleustra.
Ceir 89 ffotograff o deuluoedd Vivian a Dillwyn Llewelyn a'u cartrefi yn ardal Abertawe yn Llyfr ffotograffau LlGC 1. Cydnabyddir mai gwaith John Dillwyn Llewelyn a Thereza Mary Dillwyn Llewelyn yw'r mwyafrif o'r ffotograffau. Canolbwynta rhan fwyaf o'r cynnwys ar gartrefi o fewn eu cylch cymdeithasol a'u cymdogaeth, yn bennaf ar Benlle'r-gaer, Margam a Singelton. Ceir yr arysgrif canlynol ar y llyfr ffotograffau: "J. Traherne Moggridge from his mother, Jany 1st 1858". Y fam oedd Fanny, chwaer John Dillwyn Llewelyn, a briododd Matthew Moggeridge o Woodfield, Sir Fynwy. Prynwyd y llyfr gan y Llyfrgell Genedlaethol oddi wrth R. O. Dougan.