Symud i'r prif gynnwys

Llin-ysgythru

Print sy’n cael ei greu drwy wthio erfyn miniog a elwir yn ‘grafell’ neu ‘bwyntil’ dros blât metel. Mae’r erfyn yn creu llinellau siâp-V fydd yn cael eu llenwi ag inc. Y llinellau hyn sy’n creu’r llun terfynol yn y print.

Gosodir papur dros y plât a chaiff y ddau eu gwasgu  drwy roleri gwasg. Mae’r pwysedd yn gwthio’r inc o’r llinellau a ysgythrwyd yn y plât metel ar y papur. Mae’r llin-ysgythriadau cynharaf yn dyddio o’r 15fed ganrif.

Ysgythru

Dull o wneud printiau lle mae’r llinellau mewn plât metel yn cael eu ‘bwyta’ gan asid. Mae’r plât yn cael ei orchuddio â haen denau o sylwedd cwyraidd, gwrthasid. Drwy’r haen hwn y mae’r ysgythrwr yn tynnu llun gydag erfyn metel, nes datgelu’r metel oddi tano lle bydd y llinellau yn y print.

Yna mae’r plât yn cael ei drochi mewn baddon o asid, sy’n ‘bwyta’ i mewn i’r plât drwy’r llinellau a wnaed. Ar ôl sychu’r plât, mae’n cael ei incio, gan adael ond y llinellau a ysgythrwyd i greu print. Mae dyfnder y llinell, a pha mor dywyll mae’n edrych yn y print yn dibynnu am ba hyd y bydd y plât yn cael ei adael yn y baddon a chryfder yr hydoddiant asid. Mae’r natur yr wyneb cwyraidd yn rhoi’r un  rhyddid i’r arlunydd â phe bai’n gwneud llun â llaw.

Dotwaith

Proses a ddefnyddir wrth ddarlunio, peintio neu ysgythru. Mae dotwaith yn defnyddio dotiau bach i greu llun. Wrth wneud printiau, gellir cerfio’r dotiau allan o blât gydag erfyn metel. Yna rhoddir inc ar y plât, a chrëir print drwy osod papur dros y plât. Yna maent yn cael eu gwasgu drwy wasg.

Roedd ysgythriadau dotwaith ar eu hanterth rhwng 1770 a 1810, cyfnod o brintiau addurnol, a’r meistr arnynt oedd Francesco Bartolozzi (1727-1815) o’r Eidal. Yn aml câi ysgythriadau dotwaith eu printio mewn lliw.

Mesotint

Darganfuwyd y broses hon ganol yr 17eg ganrif, ac mae mwy o ansawdd i’r lliwiau na dulliau ysgythru ac engrafiadau cynharach. Defnyddir erfyn ag ymyl crwm a danheddog (‘rocker’) i wneud mandyllau mewn plât metel. Mae hwn yn creu ‘ymyl garw’ sy’n edrych yn ddu mewn print. Mae’r artist yn crafu’r plât i’w lyfnhau er mwyn cael arlliwiau ysgafnach. Bydd y rhannau hyn yn dal llai o inc neu ddim inc o gwbl.

Nodwedd amlwg y broses hon yw bod yr artist yn gweithio o dywyll i olau. Felly mae’n hawdd adnabod mesotint oherwydd y ffordd benodol y mae’r dyluniad yn datblygu o gefndir tywyll.

Acwatint

Amrywiad ar ysgythru sy’n creu effaith golchliw, yn debyg i lun dyfrlliw. Gyda’r broses hon gorchuddir plât â resin powdr, y gall asid dreiddio trwyddo. Mae’r asid yn ‘bwyta’ rhwng y gronynnau, sy’n dal digon o inc pan gaiff ei brintio i greu effaith golchliw. Bydd y sawl sy’n gwneud y print yn defnyddio farnais amddiffynnol i ‘atal yr asid’ rhag mynd i unrhyw rannau o’r resin y mae eisiau eu cadw’n hollol wyn, yna gellir gwneud print. Dyfeisiwyd y broses yn Ffrainc yn y 1760au.

Lithograff

Dyfeisiwyd lithograffeg yn 1798 ym Munich gan Alois Senefelder.  Dyma’r broses brintio arloesol gyntaf ers dyfeisio intaglio yn y 15fed ganrif. Yr arwyneb cyntaf a ddefnyddid oedd carreg, er bod sinc neu alwminiwm hefyd yn cael eu defnyddio.

Mae’r artist yn tynnu llun ar arwyneb gwastad ag inc neu sialc seimlyd ac mae’n golchi’r garreg gyda dŵr.  Yna mae’n rholio inc argraffu â sylfaen olew dros y garreg. Mae’r inc yn glynu yn y rhannau seimlyd yn unig, ac nid yn y rhannau eraill. Yna gwneir printiau (drych-ddelweddau) ar bapur mewn gwasg lithograffig.

Tyfodd lithograffeg mewn poblogrwydd ar ôl tua 1820 pan sylweddolodd argraffwyr masnachol fod y dull yn hynod o hawdd a hyblyg.

Cromolithograff

Dull ar gyfer gwneud printiau aml-liw yw cromolithograffeg, sy’n cynnwys pob math o lithograff. Mae’r broses yn defnyddio cemegau yn hytrach na phrintio cerfweddol neu intaglio. Defnyddir creon â sylfaen gwêr i dynnu llun ar garreg neu blât metel. Ar ôl gwneud hyn, rhoddir hydoddiant gwm arabaidd ac asid nitrig gwan ar hyd y garreg. Yna mae’n cael ei incio â phaent â sylfaen olew cyn ei gwasgu drwy wasg argraffu gyda thudalen o bapur er mwyn trosglwyddo’r llun ar y papur.

Rhaid i bob lliw yn y llun gael ei roi ar wahân ar garreg neu blât newydd a’i roi ar y papur fesul un. Mae’r broses gyfan yn cymryd llawer o amser, weithiau mae’n cymryd misoedd i gynhyrchu un llun.

Ysgythru pren

Fersiwn o dorlun pren a ddatblygwyd yn y 18fed ganrif. Defnyddir pren caled iawn, a dorrir bob amser yn erbyn y graen (caiff torluniau pren eu torri gyda’r graen) gan ddefnyddio arfau miniog.

Caiff ysgythriadau-pren eu printio’n gerfweddol, nid intaglio, a gwyn yn erbyn du (yn wahanol i’r torlun cyffredin sy’n printio llinellau du yn erbyn gwyn).

Llyfryddiaeth

  • Gascoigne, Bamber, 2004. How to identify prints: a complete guide to manual processes from woodcut to inkjet. 2il argraffiad. Llundain: Thames & Hudson
  • Goldman, Paul, 1988. Looking at prints, drawings and watercolours: a guide to technical terms. Llundain: British Museum Press ; Malibu, California: J. Paul Getty Museum
  • Griffiths, Antony, 1996. Prints and printmaking: an introduction to the history and techniques. 2il argraffiad. Llundain: British Museum Press
  • National Portrait Gallery, ‘Glossary of art terms’