Rhowch eich barn
Llenwch ein holiadur byr fel y gallwn ddefnyddio'ch sylwadau i wella ein gwasanaethau.
Ganed Henry Morton Stanley, newyddiadurwr ac arloeswr, yn John Rowlands yn Ninbych, Gogledd Cymru, yn 1841. Bu farw ei dad pan oedd yn ddwy oed, a chafodd ei fagu gan ei daid nes ei fod yn bump. Yn fuan wedyn cafodd ei anfon i wyrcws Llanelwy, a bu yno nes oedd yn 15 oed. Ar ôl gorffen ei addysg elfennol, gweithiodd fel athro-ddisgybl mewn Ysgol Genedlaethol, cyn gadael a mynd i America yn 1859, yn 18 oed, i chwilio am fywyd newydd. Daeth yn gyfeillgar â gŵr busnes o’r enw Henry Stanley, a mabwysiadodd ei enw. Gwasanaethodd yn Rhyfel Cartref America, i’r ddwy ochr. Yn ddiweddarach ymunodd â’r Llynges, ond gadawodd, a dechreuodd yrfa fel newyddiadurwr.
Yn 1867, daeth yn un o ohebwyr tramor y New York Herald. Ddwy flynedd yn ddiweddarach, fe’i comisiynwyd gan gwmni papur newydd i ddod o hyd i’r arloeswr, David Livingstone, oedd yn Affrica er na wyddai neb yn union ble. Neilltuwyd swm helaeth o arian i ariannu’r daith, a theithiodd Stanley i Zanzibar ym Mawrth 1871, i ddechrau ei daith 700-milltir drwy’r goedwig law drofannol, gyda mwy na 200 o ŵyr yn cludo offer a bwyd. Canfu Stanley ef ar 10 Tachwedd 1871, yn byw ger Llyn Tanganyika, yn Nhanzania, a chredir iddo’i gyfarch gyda’r geiriau enwog ‘Dr Livingstone, I presume?’
Teithiodd Stanley yng nghwmni Livingstone i archwilio’r ardal, ac ysgrifennodd lyfr am ei brofiadau ar ôl dychwelyd How I found Livingstone: travels, adventures and discoveries in Central Africa (1869). Daeth llwyddiant y llyfr â Stanley i sylw’r cyhoedd. Yn 1874, dychwelodd Stanley i Affrica i barhau’r gwaith archwilio, gyda chymorth ariannol y New York Herald a Daily Telegraph Prydain. Dilynodd yr afon Congo, a ffrwyth y daith epig hon oedd cyhoeddi Through the Dark Continent (1878).
Yn 1878 daeth Brenin Leopold II o Wlad Belg, at Stanley, roedd yn awyddus i ddatblygu rhannau o Affrica, a manteisio ar gyfoeth yr ardal. O ganlyniad dychwelodd Stanley i Affrica, i ran isaf yr afon Congo, a gyda chymorth Brenin Leopold, agorwyd ffyrdd newydd. Arweiniodd gwaith Stanley yno at greu Talaith Rydd Congo, oedd yn eiddo preifat i Frenin Leopold.
Ar ôl dychwelyd i Ewrop, priododd merch o Gymru oedd yn arlunydd, sef Dorothy Tennant, yn 1890. Daeth yn aelod Seneddol dros Lambeth North, Llundain yn 1895, a bu yn y swydd honno tan 1900. Cafodd ei urddo yn 1899, i gydnabod ei wasanaeth i’r Ymerodraeth Brydeinig yn Affrica.
Ganed Thomas Pennant, naturiaethwr, hynafiaethydd a theithiwr i deulu bonedd Cymreig o Whitford, Sir y Fflint. Cafodd ei addysg gynnar yn Ysgol Ramadeg Wrecsam, yna symudodd yn 1840 i Ysgol Thomas Croft yn Fulham, Llundain. Pan oedd yn 18 oed, dechreuodd astudio yng Ngholeg y Frenhines, Rhydychen, ond gadawodd heb gymryd ei radd. Wrth deithio yng Nghernyw yn 1746-1747, cyfarfu â’r hynafiaethydd a’r naturiaethwr William Borlase. Aildaniodd ddiddordeb Pennant mewn mwynau a ffosiliau, ac ysgogodd Borlase ef i ymroi i astudiaethau gwyddonol pellach yn ystod y 1750au.
Ar ôl gadael y Brifysgol, teithiodd Pennant yn helaeth ym Mhrydain ac Ewrop. Cwblhaodd ddisgrifiadau ysgrifenedig manwl am ei deithiau, ac ystyrir bod A Tour in Wales (1778-1783) ymysg y gweithiau gorau mewn llenyddiaeth Gymraeg ar ôl 1770. Cyflogodd yr arlunydd, Moses Griffith i wneud y rhan fwyaf o’r darluniau ar gyfer ei wahanol lyfrau. Gwnaed nifer o ddarluniau hefyd gan John Ingleby o Halcyn, yn bennaf ar gyfer ei drefluniau a’i bortreadau bach. Fel noddwr, prynai Pennant weithiau gan arlunwyr topograffigol adnabyddus.
Roedd ei wybodaeth eang mewn sŵoleg yn amlwg yn nifer o’r llyfrau a gyhoeddodd yn cynnwys British Zoology (1761-1777) an Arctic Zoology (1785-1787). Derbyniodd sawl anrhydedd a chydnabyddiaeth yn ystod ei oes yn cynnwys Cymrawd Cymdeithas yr Hynafiaethwyr (1754), Cymrawd y Gymdeithas Frenhinol (1767), a gradd anrhydeddus gan Brifysgol Rhydychen (1771), ymysg eraill. Cyhoeddwyd ei hunangofiant adnabyddus The Literary Life yn 1793, ac mae’n ffynhonnell wybodaeth gyfoethog am yr ysgolhaig adnabyddus hwn.