Rhowch eich barn
Llenwch ein holiadur byr fel y gallwn ddefnyddio'ch sylwadau i wella ein gwasanaethau.
Bydd Oriel Hengwrt, sy'n dal arddangosfa Trysorau, ar gau ar Ddydd Llun 9 Medi. Ymddiheurwn am unrhyw anghyfleustra.
Ganed Evan John Roberts, arweinydd carismataidd Diwygiad Crefyddol Cymru 1904-05, ym Mwlchmynydd, Casllwchwr, Sir Forgannwg yn 1878. Gweithiodd yn y pyllau glo yng Nghasllwchwr ac Aberpennar er pan oedd yn 12 oed, yna ail hyfforddodd fel gof, cyn troi at y weinidogaeth. Tua diwedd 1903, dechreuodd bregethu ym Moriah, Casllwchwr a mynychodd ddosbarthiadau diwinyddol yng Nghastell Newydd Emlyn. Ar ôl cael ‘gyffwrdd’ gan yr Ysbryd Glân, cefnodd ar ei astudiaethau, a dychwelodd i Gasllwchwr i ledaenu’r Efengyl.
Roedd pregethu Roberts yn denu cannoedd ar y tro, ac ymledodd deffroad crefyddol grymus drwy Gymru. Daeth yn ffigwr amlwg yn Niwygiad Crefyddol 1904-05 (fel y’i gelwir). Cynyddodd aelodaeth eglwysi’n sylweddol, a chododd to newydd o arweinwyr a gweinidogion yn yr eglwysi. Ymledodd y deffroad i rannau eraill o Brydain, ac ymhellach i ffwrdd i’r meysydd cenhadol. Daeth arddull Roberts o bregethu’n batrwm i gyrff crefyddol newydd megis y Mudiad Pentecostaidd a’r Eglwys Apostolaidd.
Fodd bynnag, ar ôl ychydig mwy na blwyddyn o bregethu cyhoeddus, rhoddodd Roberts y gorau iddi oherwydd blinder mawr. Aeth i Loegr i ymadfer, ac yno y bu’n byw am nifer o flynyddoedd. Cymerodd ran o dro i dro mewn cyfarfodydd yng Nghymru rhwng 1925-30, a dychwelodd i fyw i ardal Caerdydd, lle cyfansoddodd nifer o emynau a cherddi. Cyhoeddwyd casgliad o’i emynau yn Aberdâr yn 1905.
Cymraes ifanc a Christion Protestannaidd oedd Mary Jones. Pan oedd 16 oed cerddodd bum milltir ar hugain o’i chartref i’r Bala i brynu copi o’r Beibl Cymraeg iddi’i hun. Prynodd y Beibl gan Thomas Charles (1755-1814), offeiriad a Chymro amlwg, oedd wedi cysegru ei fywyd i’r efengyl ac addysg.
Roedd ei rhieni yn Fethodistiaid Calfinaidd pybyr, a daeth Mary’n Gristion yn wyth oed. Fe’i dysgwyd i ddarllen yn yr ysgolion cylchynol a sefydlwyd gan Thomas Charles, a daeth yn freuddwyd ganddi i gael ei Beibl ei hun. Cynilodd am chwe blynedd, ac yn 1800 cerddodd yn droednoeth i’r Bala i brynu Beibl gan Thomas Charles, er nad oedd sicrwydd y byddai copi yno iddi.
Y gred draddodiadol yw bod y daith hon gan Mary wedi cael gymaint o effaith ar Charles nes ysbrydolwyd ef i gynnig i Gyngor y Gymdeithas er Lledaenu Gwybodaeth Gristnogol ffurfio Cymdeithas i gyflenwi Beiblau yng Nghymru. Yn 1804, sefydlwyd y Gymdeithas Feiblaidd Frytanaidd a Thramor yn Llundain. Yn ddiweddarach priododd Mary ac ymgartrefodd ym Mryn-crug, ger Tywyn, Gwynedd.
Gweinidog gyda’r Bedyddwyr oedd Christmas Evans ac un o’r pregethwyr enwocaf yn hanes crefydd yng Nghymru. Fe’i ganed yn Llandysul, Ceredigion yn 1838. Tra’r oedd yn blentyn, gweithiodd fel gwas fferm i’r enwog David Davis Castellhywel. Pan oedd yn 18 oed, ymunodd ag un o’r eglwysi yr oedd Davis yn eu gweinidogaethu, ac aeth i un o’i ysgolion. Yno y dysgodd ddarllen ac ysgrifennu yn Gymraeg a Saesneg, a maes o law dechreuodd bregethu.
Dylanwadodd yr awyrgylch crefyddol tanbaid yn Eglwys Bedyddwyr Aberdyar, Llandysul, yn fawr arno, gan ysgogi ei waith yn pregethu. Cafodd ei ordeinio yn 1789 ac ymgartrefodd yn Llŷn, Gogledd Cymru, gan deithio’n bell ar droed neu ar gefn ceffyl i bregethu i’w gynulleidfaoedd. Symudodd i Ynys Môn, ble y sefydlodd gymuned gref i’r Bedyddwyr. Roedd yn bregethwr hynod o boblogaidd a llwyddiannus.
Bu’n weinidog yng Nghaerffili (1826-8), Caerdydd (1828-32) a Chaernarfon (1832-8). Cododd lawer o arian i dalu dyledion capeli, a chodwyd nifer o gapeli newydd. Daeth yn un o’r tri ffigwr amlycaf yn ‘oes aur’ pregethu, ynghyd â John Elias (1774-1841) a William Williams (1781-1840).
Ganed William Morgan yn Nhŷ Mawr Wybrnant, ym mhlwyf Penmachno, ger Betws-y-coed, Gogledd Cymru. Astudiodd Athroniaeth, Mathemateg a Groeg ymysg pynciau eraill, ym Mhrifysgol Caergrawnt, gan raddio yn 1568. Graddiodd yn MA yn 1571, cyn ymroi i astudiaethau Beiblaidd am saith mlynedd. Graddiodd yn BD yn 1578 a DD yn 1583.
Yn ogystal â bod yn ysgolhaig talentog, roedd William Morgan yn weinidog ordeiniedig. Penodwyd ef yn ficer Llanrhaeadr-ym-mochnant a Llanarmon o 1578, a daeth yn Esgob Llandaf yn 1595, a Llanelwy yn 1601.
Cyfieithwyd a chyhoeddodd y Testament Newydd yn Gymraeg yn 1567 gan William Salesbury, (b. cyn 1520, d. c.1580), cyfieithydd ac ysgolhaig. Er mor bwysig oedd cyflawni’r gwaith hwn, credai Morgan fod angen cyfieithu’r Hen Destament i’r Gymraeg hefyd. Dechreuodd gyfieithu’r Hen Destament ar ddechrau’r 1580au ac fe’i cyhoeddodd, yn ogystal â fersiwn diwygiedig o Destament Newydd Salesbury, yn 1588. Argraffwyd mil o gopïau yn wreiddiol, gwnaed ail argraffiad, ac roedd Beibl llai ar gael o1630 ymlaen.
Aeth Morgan ymlaen i weithio ar fersiwn diwygiedig o’r Llyfr Gweddi a Beibl 1588. Parhaodd y gwaith wedi marwolaeth Morgan dan ofal Richard Parry a Dr John Davies, a chyhoeddwyd fersiwn diwygiedig o’r Beibl yn ddiweddarach yn 1620. Mae ei waith yn cael ei ystyried yn garreg filltir bwysig yn hanes yr iaith Gymraeg, gan ei fod wedi rhoi’r cyfle i’r Cymry ddarllen y Beibl yn eu mamiaith.