Symud i'r prif gynnwys

Richard Wilson (1713 -1782)

Ganed y tirluniwr, Richard Wilson ym Mhenegoes, Sir Drefaldwyn, yn fab i ficer lleol. Sylweddolodd Syr George Wynne, cyfaill i’r teulu, fod ganddo ddawn i ddarlunio a pheintio, a gwnaeth drefniadau iddo astudio yn Llundain o dan oruchwyliaeth y darlunydd Thomas Wright.

Yn 1750, symudodd Wilson i’r Eidal, ac yno datblygodd ei arddull yn sylweddol. Gwnaeth enw iddo’i hun fel arlunydd portreadau, ac roedd ganddo gleientiaid cefnog. Tra oedd yn yr Eidal, cafodd ei annog gan yr arlunydd tirluniau, Francesco Zuccarelli, i beintio tirluniau, a daeth yn feistr ar y cyfrwng hwnnw.

Ar ôl dychwelyd i Brydain yn 1757, daeth Wilson yn arlunydd tirwedd llwyddiannus, uchel ei barch. Roedd ei gyfnod mwyaf cynhyrchiol rhwng 1760 a 1768. Ar ddiwedd y cyfnod hwn cyfrannodd at sefydlu’r Academi Frenhinol. Ond dirywiodd pethau’n araf ar ôl hynny a daeth yn bur dlawd. Dychwelodd i Gymru yn 1781, gan ymgartrefu yn yr Wyddgrug.

Er iddo golli bri erbyn adeg ei farwolaeth, ers hynny, mae ei ddylanwad mawr ar nifer o arlunwyr wedi cael ei gydnabod, gan gynnwys J.M.W. Turner a John Constable. Ymysg ei weithiau pwysicaf mae ‘The view near Wynnstay,’ 'Snowdon from Llyn Nantlle' a 'Llyn Peris a Dolbadarn Castle.'

Joseph Parry (1841 -1903)

Roedd Joseph Parry yn gyfansoddwr toreithiog iawn, ac yn ffigwr amlwg ym mywyd cerddorol Cymru ei gyfnod. Mae’n fwyaf adnabyddus am gyfansoddi rhai o emyn-donau mwyaf adnabyddus Cymru megis ‘Aberystwyth’ a ‘Myfanwy.’ Hefyd cyfansoddodd sawl opera, oratorio, cantata a gweithiau i’r piano.

Fe’i ganed ym Merthyr Tudful, yn Ne Cymru, ac yno y treuliodd ei blentyndod cynnar. Pan oedd yn 13 oed, symudodd y teulu i America, gan ymgartrefu yn Danville, Pensylvania. Enillodd gystadlaethau cyfansoddi yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru (1863-4) ac yn sgil ei lwyddiant codwyd cronfa a’i galluogodd i astudio yn yr Academi Gerdd Frenhinol (1868-1871).

Yn 1872, symudodd i Aberystwyth , a rhwng 1874 a 1880 bu’n Athro Cerdd yng Ngholeg y Brifysgol. Yn 1878, derbyniodd ddoethuriaeth mewn Cerddoriaeth o Gaergrawnt, ac o 1888 bu’n Ddarlithydd Cerdd yng Ngholeg y Brifysgol, Caerdydd.

Adelina Patti (1843-1919)

Roedd Adelina Patti yn un o gantorion opera mwyaf adnabyddus y 19eg ganrif. Fe’i ganed ym Madrid, i rieni Eidalaidd ac fe’i maged yn Efrog Newydd. Dechreuodd ei gyfra ym myd opera yn yr ‘Academy of Music’, Efrog Newydd yn 1859, yn 16 oed, lle perfformiodd y brif ran yn Lucia di Lammermoor gan Donizetti. Yn 1861, disgleiriodd ei dawn arbennig pan gymerodd ran y soprano, Amina, yn La Sonnambula gan Bellini yn Covent Garden.

Datblygodd ei gyrfa wrth iddi berfformio ar lefel rhyngwladol, cafodd lwyddiant mawr, ac roedd cynulleidfaoedd yn ei haddoli. Adeiladodd theatr yn cynnwys 150 o seddi yng ‘Nghraig-y-Nos’, ei chartref yng Nghwm Tawe Uchaf, a chynhaliodd nifer o gyngherddau preifat yno, gan berfformio ymhell ar ôl ei hymddeoliad swyddogol.

Cynhyrchodd tua 30 o recordiadau gramoffon o ganeuon ac arias operatig yn ei chartref yn ystod 1905 a 1906, ac mae’r rhain wedi eu trosglwyddo a’u rhoi ar CD.

Dylan Thomas (1914-1953)

Ganed y bardd a’r llenor, Dylan Marlais Thomas yn Abertawe yn 1914. Ar ôl cael ei addysg ffurfiol yma, gweithiodd am gyfnod fel gohebydd i’r South Wales Daily Post. Dechreuodd Thomas farddoni ac yn 1934 cyhoeddodd 18 Poems. Yna yn 1936 cyhoeddwyd Twenty-five poems, a The map of love yn 1939.

Priododd Caitlin Macnamara yn 1937 a symudodd i Dalacharn, Sir Gaerfyrddin, pentref sydd â chysylltiad cryf â’i enw, ac a ddylanwadodd yn helaeth ar ei waith. Pan dorrodd yr Ail Ryfel Byd, treuliodd Thomas lawer o’i amser yn Llundain a dechreuodd ysgrifennu sgriptiau radio i’r BBC, a chymryd rhan mewn sgyrsiau a recordiadau ar y radio. O 1944 gweithiodd yn ysbeidiol ar ddrama radio am bentref glan môr yng Nghymru. Ei henw ar y dechrau oedd Quite Early One Morning ond newidiwyd yr enw gan Thomas i Under Milk Wood, ac fe’i gorffennodd yng Ngwanwyn 1953.

Bu’n byw yn Llangain a Chei Newydd, Gorllewin Cymru, tuag at ddiwedd y rhyfel, a bu hwn yn gyfnod creadigol dros ben. Dwy o’r cerddi a ysgrifennodd yn ystod y cyfnod hwn oedd Poem in October i ddathlu ei ben-blwydd yn dri deg oed, a Fern Hill a soniai’n bennaf am y fferm yn Sir Gaerfyrddin a’i blentyndod. Prif themâu cerddi Dylan Thomas oedd hiraeth, bywyd, marwolaeth a cholli diniweidrwydd. Ysgrifennai’n aml am ei orffennol fel bachgen neu fel gŵr ifanc. Daeth Cymru, ei thirwedd a’i phobl, yn rhan sylfaenol o’i waith.

Derbyniodd Thomas wahoddiad i fynd i America yn 1950, a dychwelodd i’r wlad droeon, gan dreulio ychydig fisoedd yno ar y tro. Rhoddodd ddarlleniadau yn Efrog Newydd ac mewn campysau Prifysgolion ledled y wlad. Ond cafodd broblemau iechyd mawr oherwydd ei fod yn yfed yn drwm, a bu farw yn 39 oed yn Efrog Newydd.

Ebenezer Thomas ‘Eben Fardd’ (1802-1863)

Roedd Ebenezer Thomas, neu ‘Eben Fardd’ fel y câi ei alw, yn cael ei ystyried yn un o feirdd mwyaf Cymru yn ystod ei oes. Fe’i ganed ym mhlwyf Llanarmon, Sir Gaernarfon, a chafodd ei addysg mewn sawl ysgol yn y sir. Pan fu farw ei frawd, William, yn 1822, ymgymerodd Thomas â’r ysgol a gadwai yn Llangybi, Sir Gaernarfon. Yn ddiweddarach aeth i gadw ysgolion eraill yn y sir yn Llanarmon (1825) a Chlynnog (1827).

Yn Eisteddfod Powys, a gynhaliwyd yn y Trallwng yn 1824 y daeth llwyddiant i’w ran y tro cyntaf, a hynny am yr awdl ‘Dinystr Jerusalem.’ Yna enillodd am yr eilwaith yn Eisteddfod Lerpwl, yn 1840, lle dyfarnwyd gwobr iddo am ei awdl ‘Cystudd, Amynedd ac Adferiad Job.’ Y flwyddyn ganlynol, ymddangosodd y ddwy awdl yma, a cherddi arall, yn y gyfrol Caniadau.  Enillodd am y trydydd tro, a’r tro olaf yn 1858, yn Eisteddfod Llangollen am ei awdl ‘Maes Bosworth.’

Yn ogystal â’i gerddi eisteddfodol adnabyddus, ysgrifennodd nifer o emynau, a chyhoeddwyd casgliad ohonynt yn 1862. Cyfrannodd yn helaeth hefyd at gylchgronau’r cyfnod, a beirniadodd nifer o gystadlaethau barddoniaeth. Cyhoeddwyd casgliad o’i waith o dan y teitl Gweithiau barddonol Eben Fardd (1875).

Sicrhaodd ei lwyddiant fel bardd le canolog iddo yng ngweithgarwch llenyddol hanner cyntaf y bedwaredd ganrif ar bymtheg.

Llyfryddiaeth

  • Gwefan y BBC, ‘Adelina Patti’
  • Gwefan y BBC, ‘Dr Joseph Parry’
  • Dylan Marlais Thomas (1914-1953)Walford Davies, Y Bywgraffiadur Cymreig, Llyfrgell Genedlaethol Cymru, 2001; arg. arlein, 2007
  • McGovern, Una (ed.), 2002. Chambers Biographical Dictionary. 7fed argraffiad. Edinburgh: Chambers Harrap
  • Ebenezer Thomas (Eben Fardd; 1802-1863)Thomas Parry, Y Bywgraffiadur Cymreig, Llyfrgell Genedlaethol Cymru, 2001; arg. arlein, 2007
  • Turner, Jane (ed.), 1996. The dictionary of art. Basingstoke : Macmillan